Parc Pont-y-pŵl ac Canolfan Sgïo

Parc Pont-y-pŵl ac Canolfan Sgïo
  • Lleoliad:Pontypool

O bosib, dyma’r parc tref gorau yng Nghymru gyda dros 150 erw o olygfeydd hardd a llawer o gyfleusterau hamdden. Mae yma ganolfan hamdden, llethr sgïo sych (yr hiraf yng Nghymru), cyrtiau tennis, maes bowlio, parc chwarae i blant a dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer taith gerdded yn llawn golygfeydd godidog. Dros yr haf, mae’r parc hanesyddol hwn, tir Tŷ Pont-y-pŵl gynt, sef cartref teuluol teulu’r Hanbury, yn cynnal Carnifal poblogaidd ac yn ystod y tymor rygbi mae’n gartref i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl.

Yng Nghanolfan Sgïo Pont-y-pŵl, mae yna brif lethr sy’n 230 metr, ardal i ddechreuwyr /nofisiaid, lifft sgïo Poma, system ysgeintio a rhedfa mogwl. Yn ychwanegol at amserau sgïo agored, mae’r Ganolfan Sgïo’n rhedeg Ysgol Sgïo, sy’n cynnig hyfforddiant sgïo o bob safon ac eirafyrddio o’r ‘nofis i’r arbenigwr’. Mae’r Ganolfan Sgïo’n agored i bawb waeth beth yw eu gallu, ond mae’n rhaid bod y rheiny sy’n ddechreuwyr llwyr wedi cael o leiaf 3 gwers cyn iddyn nhw allu ymarfer yn agored. Mae’r ganolfan yn gweithredu dros dymor y Gaeaf o ddechrau mis Hydref hyd nes 1 Ebrill. Mae ar gau i’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystod tymor yr haf, ac eithrio i aelodau Clwb Sgïo Torfaen sy’n parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau ar nos Fercher, rhwng 7yh a 9yh.

  • Mynedfa i’r Anabl:Na
  • Addas i Ymweliadau Addysgol:Na
  • Addas i Grwpiau:Na
  • Addas i Deuluoedd:Na
Manylion Cyswllt
  • Ffon:01495 766754
Diwygiwyd Diwethaf: 17/05/2023 Nôl i’r Brig