Mae gan Dorfaen rwydwaith eang o lwybrau beicio hygyrch y gellir eu defnyddio i fynd i ac o’r gwaith, cyrraedd cyfleusterau pwysig fel canolfannau hamdden neu siopau neu er pleser pur. Mae llawer o’r llwybrau oddi ar y ffordd ac yn arwain trwy dirweddau deniadol gyda llawer o nodweddion hanesyddol difyr. Mae nifer y llwybrau wedi cynyddu’n gyflym yn ddiweddar ac mae rhwydwaith trawiadol yn y cwm bellach. Mae nifer o lwybrau ‘Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol’ yn y fwrdeistref, gan gynnwys:
- NCN 492 - Cwmbran to Blaenavon
- NCN 49 - Newport to Mamhilad
- NCN 466 - Pontypool to Crumlin