Gwybodaeth i Landlordiaid
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo.
Dyma’r prif newidiadau i landlordiaid:
- Mae yna ddau fath o gontract: contract diogel ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a chontract safonol ar gyfer y sector rhentu preifat.
- Rhaid i landlordiaid sicrhau bod eu heiddo yn ffit i fod yn gartref. Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio yn yr eiddo, a chynnal profion diogelwch trydanol.
- Gellir adfeddu eiddo y cefnwyd arno heb fod angen gorchymyn llys.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.
Rhentu Doeth Cymru
Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord preifat gofrestru ei hun a’i eiddo. Rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod eiddo ac yn rheoli eiddo gael trwydded hefyd.
Mae’n drosedd i beidio â chofrestru ac mae landlordiaid yn gallu wynebu dirwyon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Torfaen, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i adnabod y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio â’r ddeddf o hyd. Mae cynghorau’n erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.
Os ydych yn denant, ac eisiau gwirio os yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld ofrestr gyhoeddus ar-lein Rhentu Doeth Cymru. Os nad ydyw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i rhentudoeth.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 133344.
Am ragor o wybodaeth am gyflwr eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat yn Nhorfaen, cysylltwch â Thîm Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd public.health@torfaen.gov.uk.
Gwybodaeth i landlordiaid
Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2024
Nôl i’r Brig