Eiddo Gwag

Ar hyn o bryd mae Cyngor Torfaen yn ymchwilio oddeutu 400 o eiddo gwag o fewn y Fwrdeistref.  Mae eiddo gwag yn arwain at bryderon cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cynnwys:

  • Creu hyllbethau sy'n darged i niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gostwng gwerth eiddo cyfagos
  • Cyfrannu at brinder tai yn y gymdogaeth
  • Cynyddu pwysau am ddatblygu tai ar safleoedd maes glas i gwrdd â galw am dai
  • Gosod baich ar yr awdurdod lleol o ran colli refeniw o dreth y cyngor a'r amser a dreulir a'r adnoddau a ddefnyddir gan Iechyd y Cyhoedd, Rheoli Adeiladau, Yr Awdurdod Tân a Gwasanaethau'r Heddlu

Mae perchnogion eiddo gwag hefyd yn colli allan ar yr incwm posib sy'n cael ei gynhyrchu trwy osod neu werthu eu heiddo.

Gorfodi

Os nad yw perchnogion eiddo gwag yn cydymffurfio a bod yr holl drafodaethau wedi methu, gall Cyngor Torfaen gymryd camau gorfodi i sicrhau bod yr eiddo gwag yn dychwelyd i gyflwr y gellir byw ynddo a’i ddefnyddio unwaith eto. Gall camau gorfodi gynnwys gorchmynion rheoli eiddo gwag, gorfodi i werthu, gorchmynion prynu gorfodol neu gaffael gwirfoddol.

Rydym yn annog perchnogion i edrych ar y dolenni cymorth am gyngor ac arweiniad ar sut i gael defnydd o'u heiddo gwag unwaith eto.

 Am mwy o gwybodaeth am eiddo gwag yn nhorfaen ymweld a wefan Tai Torfaen

Benthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid

Ar hyn o bryd mae Cyngor Torfaen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn cynnig benthyciadau di-log i gynorthwyo perchnogion eiddo gwag i ailddefnyddio'u heiddo.

I gael mwy o wybodaeth am Fenthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid yn Nhorfaen ewch i wefan Tai Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Empty Hopes

Ffôn: 01495 742629 neu 01633 647295

Nôl i’r Brig