Archebu Prawf MOT

Mae canolfan brawf MOT cyngor Torfaen yn cynnig gwasanaeth annibynnol cymeradwy i yrwyr yn ei depo yn Nhŷ Blaen, Y Dafarn Newydd.

Mae gan y cyngor staff profiadol sydd â hanes da o gynnal a chadw cerbydau. Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ac yn cynnal a chadw 450 o gerbydau yn cynnwys 190 o gerbydau ar gyfer sefydliadau sy'n bartneriaid..

Mae ein gorsaf brawf wedi'i lleoli yn Nhŷ Blaen Torfaen, oddi ar New Road, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, Torfaen. NP4 OTL.

Gallwch archebu a thalu am eich prawf gan ddefnyddio'r ffurflen isod.

Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw’.

SYLWER: Os nad yw’r ffurflen isod yn ymddangos, ac os ydych wedi dewis 'cytuno' ar y faner cwcis, cliciwch ‘diweddaru’ i ail lwytho’r dudalen. Os wnaethoch chi glicio 'anghytuno' ar y faner cwcis, yn anffodus ni fydd y ffurflen yn llwytho. A fyddech cystal â golygu eich dewis gan ddefnyddio’r eicon preifatrwydd ar waelod y sgrin neu ddefnyddio’r fersiwn arall o’r ffurflen

Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbynfa’r Orsaf MOT

Ffôn: 01495 766795
Ebost: motenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig