Premiymau'r Dreth Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi

Ers 1 Ebrill 2017, mae Cynghorau yng Nghymru wedi cael codi symiau uwch (premiwm) yn ychwanegol at gyfradd safonol y dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Diffinio Annedd Wag Hirdymor ac Ail Gartref

Diffinnir annedd wag hirdymor fel annedd sydd wedi bod yn wag a heb ei dodrefnu i raddau helaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.

Diffinnir ail gartref fel annedd sydd wedi ei dodrefnu lle nad oes unrhyw un yn byw ynddi - neu y mae gan y perchennog brif gartref yn rhywle arall.

Rydym yn ystyried a ddylid cyflwyno premiwm treth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi ai peidio, yn rhan o strategaeth gyffredinol i leihau nifer yr anheddau sy’n wag ac i gynyddu’r cyfleoedd am dai yn lleol.  

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r sefyllfa i weld sawl annedd yn y fwrdeistref fyddai’n ddarostyngedig i bremiwm treth gyngor.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch unrhyw benderfyniad a bydd gofyn cael cymeradwyaeth cynghorwyr.

Pam y mae’r cyngor yn ystyried cyflwyno premiymau?

Yn ei hanfod, y prif nod wrth gyflwyno premiwm yw defnyddio anheddau gwag hirdymor unwaith eto yn rhan o’n strategaeth gyffredinol i uchafu’r tai o ansawdd da sydd ar gael i’n trigolion.  Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar leihau digartrefedd a hefyd yn lleihau nifer yr anheddau gwag hirdymor, sy’n cael effaith negyddol ar ein cymunedau.

Rydym wedi dewis mynd ati drwy annog perchnogion i gyflawni’r nod hwn o’u gwirfodd, a gyda chymorth y Cyngor, yn hytrach na’r dull digon amwys a di-fin o godi premiwm. Fodd bynnag, os na fydd hyn yn profi’n bosibl yna bydd yn rhaid i’r Cyngor ystyried cyflwyno premiwm.

Nid yw fy annedd yn ail gartref nac yn gartref gwag hirdymor

Os ydych o’r farn na ddylech orfod talu premiwm ar eich eiddo gan fod rhywun yn byw ynddo fel eu prif gartref neu unig gartref, yna bydd gofyn i chi lenwi ffurflen Treth y Cyngor - hysbysu ynglŷn â deiliadaeth  fel y gallwn ddiweddaru’n cofnodion.

Bydd gofyn i chi roi enwau llawn pob oedolyn sy’n byw yn yr eiddo i ni, ynghyd â’r dyddiad yr oeddent wedi symud i fyw yno yn ogystal â phrawf o’u preswyliad (er enghraifft biliau cyfleustodau, cytundeb tenantiaeth neu drwydded yrru). 

Cymorth i berchnogion anheddau gwag hirdymor

Os ydych yn berchen ar annedd wag hirdymor neu ail gartref, efallai y bydd y cyngor yn gallu cynnig cymorth i chi er mwyn i’ch annedd gael ei defnyddio unwaith eto.

Gallech fod yn gymwys i gael Benthyciad Perchen-Feddiannwr neu Fenthyciad Gwella Cartrefi Pont-y-pŵl.  Cewch fanylion y ddau gynllun hyn yma – Benthyciadau Gwella Cartrefi

Y ddeddfwriaeth

Diwygiwyd Diwethaf: 26/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Treth Gyngor

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig