Perfformio Hypnotiaeth

A oes angen i mi gael awdurdodiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen?

Mae Deddf Hypnotiaeth 1952 yn datgan na chaiff unrhyw unigolyn gynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad o hypnotiaeth ar unrhyw unigolyn byw mewn adloniant neu mewn cysylltiad ag adloniant y mae'r cyhoedd wedi cael mynediad iddo, naill ai am dâl neu am ddim, mewn unrhyw leoliad oni bai bod yr awdurdod rheoli wedi awdurdodi'r arddangosfa honno neu'r arddangosiad neu berfformiad hwnnw.

Mae hypnotiaeth yn cynnwys hypnotiaeth, mesmeriaeth neu unrhyw weithred neu broses debyg sy'n ysgogi neu y bwriedir iddi ysgogi unrhyw fath o gwsg neu lesmair cymelledig mewn unigolyn, pan fydd natur ymatebol meddwl yr unigolyn hwnnw i awgrym neu gyfarwyddyd yn cael ei chynyddu neu y bwriedir iddi gynyddu.

Eithriadau

Nid oes unrhyw beth yn Neddf Hypnotiaeth 1952 sy'n atal hypnotiaeth rhag cael ei harddangos neu ei pherfformio (heblaw mewn adloniant neu mewn perthynas â hynny) at ddibenion gwyddonol neu ymchwil neu ar gyfer trin afiechyd meddwl neu gorfforol.

Nid yw'r angen am gael awdurdodiad yn berthnasol i arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth a gynhelir yn ystod perfformiad o ddrama (yn ystyr Deddf Theatrau 1968) naill ai ar safle sydd â thrwydded mewn grym o dan y Ddeddf honno neu o dan awdurdod unrhyw lythyrau breinio fel y'u crybwyllir yn adran 17(1) y Ddeddf honno.

Yr ymgeisydd

Ni chaiff ymgeisydd wneud cais os oes unrhyw awdurdod trwyddedu wedi gwrthod rhoi caniatâd iddo yn y gorffennol neu wedi dynnu caniatâd o'r fath yn ei ôl, neu os yw'r ymeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd o dan Ddeddf Hypnotiaeth 1952 neu wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â thorri amod sy'n rheoleiddio neu'n atal cynnal perfformiad o hypnotiaeth ar unrhyw unigolyn mewn man sydd wedi'i drwyddedu i gynnal adloniant cyhoeddus.

Os yw awdurdod arall wedi gwrthod rhoi caniatâd, nid yw hynny'n golygu o reidrwydd bod yr hypnotydd penodol yn annerbyniol ac ni fydd hynny ynddo'i hun yn niweidiol i'r cais.

Sut i wneud cais

Rhaid i'r ymgeisydd neu ei asiant gyflwyno cais am ganiatâd i gynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad o hypnotiaeth. Nid oes ffi i'w thalu ar gyfer y cais hwn.

Dylid cyflwyno ceisiadau ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y perfformiad dan sylw. Gallai'r cyfnod hwn gael ei leihau mewn achosion lle y mae'r hypnotydd wedi perfformio yn yr un lleoliad o fewn y tair blynedd diwethaf heb unrhyw drafferthion.

Hysbysu awdurdodau cyfrifol

Pan fydd yr ymgeisydd yn gwneud cais, rhaid iddo anfon copi o'r cais ymlaen at Brif Swyddog yr Heddlu ar yr un pryd. Mae'n bosibl y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn anfon copi o'r cais i'r Awdurdod Tân hefyd lle bo'r angen.

Am ba mor hir y bydd yr awdurdodiad yn para?

Bydd yr awdurdodiad yn para am gyfnod y perfformiad neu'r perfformiadau yn y lleoliad penodol hwnnw.

Pa amodau fydd ynghlwm wrth awdurdodiad?

Mae Cylchlythyr Rhif 39.1996 y Swyddfa Gartref yn darparu am atodi amodau model wrth drwyddedau ar gyfer perfformio hypnotiaeth. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o'r amodau hyn cyn gwneud cais am drwydded.

Troseddau a chosbau

Gallai unigolyn sy'n cynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad o hypnotiaeth heb gael awdurdodiad, neu sy'n ei chynnal mewn ffordd sy'n mynd yn groes i unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth awdurdodiad, fod yn atebol yn sgil euogfarn ddiannod am dalu dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (sef £1000 ar hyn o bryd).

Gallai unigolyn sy'n cynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad o hypnotiaeth ar unigolyn sydd heb gyrraedd deunaw oed mewn adloniant neu mewn cysylltiad ag adloniant y mae'r cyhoedd wedi cael mynediad iddo, am dâl neu am ddim, oni bai bod ganddo achos rhesymol i gredu bod yr unigolyn hwnnw wedi cyrraedd 18 oed, fod yn atebol yn sgil euogfarn ddiannod am dalu dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (sef £1000 ar hyn o bryd).

Hawliau mynediad

Caiff unrhyw Gwnstabl yr Heddlu fynd i mewn i unrhyw safle lle y cynhelir unrhyw adloniant os oes ganddo achos rhesymol i gredu bod unrhyw weithred yn cael ei chyflawni, neu y gallai gael ei chyflawni, yn groes i Ddeddf Hypnotiaeth 1952.

Dylid anfon ffurflenni cais i'r cyfeiriad canlynol:

Trwyddedu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, NP4 0LS

Diwygiwyd Diwethaf: 02/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Tel: 01633 647284/647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig