Mynwent Llwyncelyn
Lleoliad
Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF
Amserau agor
Gatiau’r fynwent
Bydd gatiau'r fynwent yn cael eu hagor a'u cau tua’r amserau canlynol:
- Yn ystod yr haf: agor 9am - cau 7pm
- Pob amser arall: agor 9am - cau 5pm
Toiledau
Cyrraedd yno
Mae lleoedd i barcio ac mae mynediad i gerbydau
I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, rhowch glic ar Traveline Cymru
Mae Gorsaf Reilffordd Cwmbrân tua 3 milltir i ffwrdd
Mae’r fynwent ger Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ac mae’r llwybr tynnu yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 492
Gwybodaeth ychwanegol
Mae swyddfa Gwasanaeth y Fynwent ym Mynwent Llwyncelyn. Mae ar agor rhwng 8am a 4pm, dydd Llun i ddydd Iau, ac 8am i 3.30pm ar ddydd Gwener. Mae'r swyddfa ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Mae toiledau cyhoeddus ar gael. Mae’r amseroedd agor yr un fath â'r swyddfa.
Mae Mynwent Llwyncelyn yn cynnig yr opsiynau claddu canlynol:
- Beddau lawnt gyda charreg bedd
- Beddau ag ymylon o’u cwmpas â cherrig coffa
- Claddu lludw yn dilyn amlosgiad
- Ardal wedi’i neilltuo i fabanod
- Claddedigaeth yn y ddôl
Mae ardal Claddu'r Ddôl ym mynwent Llwyncelyn yn rhan o'r Warchodfa Natur Leol ddynodedig, sydd â gwerth ecolegol uchel, felly ni chaniateir unrhyw gerrig coffa na blodau yn yr ardal hon.
Mae wal goffa a phlaciau gyda ffiolau y gellir eu prydlesu am 10 mlynedd. Cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent i gael mwy o wybodaeth.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2024
Nôl i’r Brig