Cynllun Cyflawni 2024/2025

  • Amcan Llesiant 1 - Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
  • Amcan Llesiant 2 - Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant ffynnu
  • Amcan Llesiant 3 - Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal cynnar sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
  • Amcan Llesiant 4 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol
  • Amcan Llesiant 5 - Byddwn yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol
  • Amcan Llesiant 6 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog egin fusnesau a busnesau newydd
  • Amcan Llesiant 7 - Byddwn yn hybu ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella lles meddyliol a chorfforol
  • Amcan Llesiant 8 - Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag e
  • Amcan Llesiant 9 - Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 1

Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol

Amcan Llesiant 1
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
  • ­ Dechrau adeiladu ar safle Ysgol Gynradd Maendy a gwella’r dysgu ac addysgu trwy fuddsoddi £17m i adeiladu'r ysgol garbon sero net newydd yn lle Ysgol Gynradd Maendy.

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

 

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Ar gam RIBA 4 ar hyn o bryd hy cael costau’n seiliedig ar dendrau Chwefror 2024 ac os o fewn y gyllideb (£17.1m) bwriedir dechrau adeiladu ym mis Mawrth 2024.

 

Trosglwyddo’r ysgol newydd Mai 2025, a dymchwel yr ysgol bresennol erbyn Ionawr 2026

  • Dechrau’r estyniad carbon sero net £6.85m i greu estyniad ar gyfer 50 o leoedd ychwanegol yn Crownbridge i wella'r ddarpariaeth i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu difrifol

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

 

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Trosglwyddo’r estyniad newydd Hydref 2024 a'r gyllideb o £12.4m

  • Dylunio ac adeiladu maes 3G yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

 

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Cwblhau - Awst 2024. Cyllideb yn parhau i fod yn £1.65m

Rhaglen Rheoli Asedau (Ysgolion)
  • Darparu amrywiaeth o brosiectau cynnal a chadw wedi'u cynllunio, a phrosiectau ataliol i wella ein hysgolion yn seiliedig ar y cyllid fydd ar gael

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Prosiectau cynnal a chadw wedi'u cynllunio a phrosiectau ataliol i wella ein hysgolion erbyn Mawrth 2025

Strategaeth Llesiant
  • Meithrin dull Ysgol Gyfan o ran y strategaeth lesiant.  Bydd hyn yn cael ei lywio gan ddata SHERN, Iechyd y Cyhoedd, Ysgolion, pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill

ADY, Cynhwysiant a Lles

Lansio Strategaeth Llesiant 

Medi 2024

Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad
  • Gwella'r ystod o ddarpariaeth, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg ag ADY

ADY, Cynhwysiant a Lles

Cwblhau asesiad digonolrwydd a chapasiti o'r angen ar hyn o bryd a rhagamcan o’r angen ar gyfer ADY yn unol â chod ADY pennod 7 a gofynion CSCA erbyn Gorffennaf 2024

Canlyniadau Dysgwyr

  • Dulliau mesurau canlyniadau arholiadau cenedlaethol: Mae canlyniadau ysgolion unigol a chanlyniadau cyfanredol CBST yn unol â disgwyliadau a fodelwyd gan Lywodraeth Cymru ee y Mesur Capio Naw, mesurau Llythrennedd, Gwyddoniaeth a Rhifedd

Gwella Ysgolion/ Dysgu a Chyflawniad

Cyhoeddi dadansoddiad data blynyddol

Rhagfyr 2024/Ionawr 2025.

Canlyniadau yn unol neu'n uwch na’r disgwyliadau a fodelwyd gan Lywodraeth Cymru

Strategaeth Bresenoldeb “Ddim Mewn Colli Mas"
  • Parhau i weithio gydag ysgolion i ymgorffori 'Anelu am y 95' a pharhau i godi ymwybyddiaeth drwy ddefnyddio'r ymgyrch #ddimmewncollimas i wella presenoldeb a phrydlondeb yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd

Gwasanaeth Lles Addysg

Cynnydd o 1 pwynt canran (PC) erbyn mis Gorffennaf 2024

 

Cynnydd o 1 Pwynt canran pellach erbyn mis Mawrth 2025

  • Gweithio gyda phob ysgol i hybu presenoldeb da, lleihau absenoldebau anawdurdodedig fel rhan o'r ymgyrch #Ddimmewncollimas

UCGC

Gweithio gyda 16 Ysgol i hyrwyddo presenoldeb da erbyn diwedd mis Mawrth 2025

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru
  • ­Darparu lleoliadau profiad gwaith gyda’r Cyngor ar gyfer 36 o bobl ifanc (o dan 16 oed i ddechrau) sydd mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a/neu Blant sy'n Derbyn Gofal.

Tîm Ysbrydoli

36 o bobl ifanc mewn lleoliadau profiad gwaith erbyn mis Mawrth 2025

  • ­ Lleihau canran y bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11 sydd cael eu cyfri fel rhai 'nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant’ gan Yrfa Cymru o 2% i 1.9% erbyn Rhagfyr 2024

Tîm Ysbrydoli

<1.9% o bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11, nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant erbyn Rhagfyr 2024

  • ­Darparu 125 o gymwysterau (fel y'u diffinnir gan Fframwaith Cymwysterau a Chredyd) i bobl ifanc oed uwchradd wedi'u targedu sydd mewn perygl o beidio â symud ymlaen i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant

Tîm Ysbrydoli

125 o gymwysterau wedi'u cyflwyno i bobl ifanc oed ysgol uwchradd sydd mewn perygl o beidio â symud ymlaen i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant erbyn mis Mawrth 2025

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau
  • Darparu ail gam y rhaglenni hyfforddi fel rhan o Raglen Datblygu Corfforaethol y Cyngor (Digidol a Phrentisiaethau) i wella cyfleoedd gwaith i drigolion lleol

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Cwblhau ymgyrch hyrwyddo i sicrhau lleoliadau gwaith


Ch2: Cymeradwyo’r rhaglen hyfforddiant digidol


Ch2: Cytuno ar y fframwaith ar gyfer monitro canlyniadau a dysgu


Ch3: Cymeradwyo rhaglen hyfforddiant

Strategaeth Llesiant Cymunedol
  • Nifer y cofrestriadau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyrsiau Sgiliau Hanfodol, ar ddiwedd Tymor 3, Blwyddyn Academaidd 2023/24

Cymunedau ac Adnewyddu

800 o gofrestriadau ar gyrsiau sgiliau hanfodol erbyn mis Mawrth 2025

  • Nifer yr ymholiadau a wnaed am Gymorth Cyflogaeth a Sgiliau

330 o ymholiadau am gymorth cyflogaeth a sgiliau erbyn mis Mawrth 2025

  • Nifer y trigolion sydd wedi cofrestru gyda gwasanaethau cyflogadwyedd Cymunedau Cymru a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (C4W, SPF)

1160 o drigolion wedi cofrestru gyda gwasanaethau cyflogadwyedd erbyn mis Mawrth 2025

  • Nifer y cymwysterau a gyflawnwyd yn sgil raglenni cyflogadwyedd - Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF)

96 o gymwysterau wedi cael eu cyflawni yn dilyn raglenni cyflogadwyedd erbyn mis Mawrth 2025

  • Cyfanswm nifer y Canlyniadau Swyddi a adroddwyd

Adrodd 230 o ganlyniadau swyddi erbyn Mawrth 2025

  • Lluosi:  nifer yr oedolion sy'n ennill cymhwyster mathemateg hyd at ac yn cynnwys Lefel 2

177 o gymwysterau mathemateg wedi cael eu cyflawni erbyn Mawrth 2025

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau
  • Cefnogi 1000 o bobl ifanc i wella eu llythrennedd drwy Sialens Ddarllen yr Haf
Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd 1000 o blant wedi derbyn cymorth i wella’u sgiliau llythrennedd yn ystod haf 2025

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 2

Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant ffynnu

Amcan Llesiant 2
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad / Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • ­Cynyddu nifer y bobl ifanc a gefnogir drwy weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol, fel Hwb Torfaen a Chynghorau Cymuned

Gwasanaeth Ieuenctid

350 o bobl ifanc yn derbyn cefnogaeth yn ystod 2024/25

Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal / Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc

  • ­Sicrhau bod o leiaf 83-86% o'r plant rydym yn gofalu amdanynt yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol (Ein targed yw 90% erbyn 2025/26)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

86% o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol erbyn mis Mawrth 2025

  • ­Sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi yn y dull sy'n seiliedig ar gryfderau er mwyn i’r ymarfer hwnnw barhau i ddatblygu a bod penderfyniadau diogel yn cael eu gwneud i effeithio ar y boblogaeth Plant Sy’n derbyn Gofal a'r llwyth gwaith yn gyffredinol

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

100% o staff wedi'u hyfforddi erbyn mis Mawrth 2025

  • ­Sicrhau bod llwyth achosion gweithwyr cymdeithasol cymwys yn hylaw, ac yn gostwng i 20 ar gyfartaledd

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

<20 achos fesul gweithiwr cymdeithasol erbyn mis Mawrth 2025

(*ffigur ar gyfartaledd ar draws ein gweithwyr cymdeithasol, rhai i gael mwy neu lai yn dibynnu ar gymhlethdod eu llwyth achosion)

  • Lleihau nifer y plant yr ydym yn gofalu amdanynt a hynny hyd at 15% yn 2023/24

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Gostyngiad pellach o 15% ar ffigurau diwedd blwyddyn 2023/24

  • ­Adolygu effaith y Strategaeth i Leihau nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a’i datblygu yn ôl yr angen

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cwblhau’r adolygiad erbyn mis Medi 2024 a datblygu strategaeth yn ôl yr angen

  • ­Adolygu a datblygu ystod eang o ddarpariaeth/llety i blant sy'n derbyn gofal ac angen darpariaeth arbenigol er mwyn sicrhau cysondeb o ran lleoliad a lleihau elw mewn gofal

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Parhau i adolygu a datblygu, yn unol ag amserlenni, fel y nodir yn agenda Llywodraeth Cymru ar ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal erbyn 2027

Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae Torfaen

 

  • ­Parhau i weithio gyda'r gymuned ac ysgolion i deilwra ein cynnig chwarae a ddarperir yn ôl anghenion y gymuned/ysgolion

Y Gwasanaeth Chwarae

Cyflwyno dros 100 o brosiectau chwarae gwahanol i gymunedau ac ysgolion bob blwyddyn

 

1,600 o ddisgyblion yn defnyddio prosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae mewn ysgolion, bob blwyddyn

 

4,500 yn cymryd rhan yn y darpariaethau chwarae cymunedol, bob blwyddyn

  • ­Darparu pecynnau cymorth chwarae i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol

Y Gwasanaeth Chwarae

Cyflwynir 200 o brosiectau chwarae bob blwyddyn sy'n manteisio ar chwarae ar benwythnosau a darpariaethau seibiant a gwyliau erbyn mis Mawrth 2025

Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb

  • ­Hybu prydau ysgol am ddim mewn Ysgolion Cynradd am ddim, i gyrraedd 75%

Y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau

75% yn derbyn prydau ysgol gynradd erbyn mis Mawrth 2025

Strategaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

  • ­Cefnogi 90% o'r holl bobl ifanc sydd angen cefnogaeth atal ac ymyrryd o ran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) i adael y broses gyda chanlyniad cadarnhaol

UCGC

90% o bobl ifanc yn cael canlyniad cadarnhaol

  • ­Cynnwys mwy o bobl ifanc yn y rhaglen Dyfodol Cadarnhaol gan ddefnyddio chwaraeon i leihau lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol

200 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn rhaglen Dyfodol Cadarnhaol erbyn Mawrth 2025

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 3

Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal cynnar sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus

WAmcan Llesiant 3
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Strategaeth Gymunedol a Llesiant

  • ­Gweithio ar draws y cyngor er mwyn datblygu gwytnwch cymunedol a lleihau'r angen am wasanaethau statudol a'r baich sydd arnynt

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Llai o alw / atgyfeiriadau

 

Gostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal o ddiwedd gwaelodlin mis Mawrth 2024.

 

Parhau drwy gydol 2024/25

Cymorth Gyda Threth y Cyngor a Budd-daliadau

  • ­Cynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n manteisio i’r eithaf ar fudd-daliadau drwy roi cyngor yn ôl yr angen ac atgyfeiriadau fel y bo'n briodol (seiliedig ar alw)

Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau

Rhoi cyngor drwy atgyfeiriadau fel y bo'n briodol

  • ­Gweinyddu Budd-daliadau Tai yn gywir, ac yn unol â rheoliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (seiliedig ar alw)

Rhoi Budd-daliadau Tai gwerth £24 miliwn

  • ­Rhoi Taliad Disgresiwn at Gostau Ta yn unol â pholisi perthnasol y cyngor

Rhoi Taliad Disgresiwn at Gostau Tai gwerth £429,000

  • Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn effeithlon (seiliedig ar alw)

Rhoi £10.3 miliwn i 9,600 o dderbynwyr drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

  • Rhoi Prydau Ysgol am Ddim 

Gweini 4,400 o Brydau Ysgol Am ddim

Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol

 

  • ­ Rhoi grantiau gwisg ysgol

Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau

Rhoi 3,600 o grantiau gwisg ysgol

  • ­Rhoi taliadau gwarcheidwaeth/mabwysiadu

Rhoi 200 o daliadau gwarcheidwaeth /mabwysiadu

  • ­Cynnal asesiadau prawf modd gofal cymdeithasol

Cwblhau 1,000 o asesiadau prawf modd gofal cymdeithasol

Strategaeth Gofal Cartref

 

  • ­Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o gynllun peilot Ardal y Gogledd, ceisio darparwr i dreialu cynllun yn Ardal y De i lywio model comisiynu seiliedig ar ardal yn y dyfodol a fydd yn gwella canlyniadau i drigolion a chapasiti yn y farchnad gofal cartref.

Gwasanaethau Oedolion

Ch3: Dychwelyd Datganiadau o ddiddordeb


Ch4: Ardal y De ar waith

  • ­Cynyddu'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol i ategu at y gwasanaethau gofal uniongyrchol neu eu disodli, er mwyn cefnogi pobl i gynnal a chyflawni lefelau uwch o annibyniaeth.

Gwasanaethau Oedolion

Ch3 Strategaeth Technoleg Gynorthwyol ar waith

  • ­Datblygu ymyriadau recriwtio a chadw ar gyfer pob gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn Nhorfaen er mwyn gallu cynnal gweithlu sefydlog

Gwasanaethau Oedolion

Ch2: Cwmpas yr Ymyriad wedi'i gwblhau

  • ­Gweithredu a monitro perfformiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn ei flwyddyn gyntaf (Drws Ffrynt)

Gwasanaethau Oedolion

Ch1: Gwasanaeth wedi cael ei weithredu


Ch3: System wedi’i hadolygu

  • ­Gweithredu a monitro perfformiad y Gwasanaeth Ail-alluogi newydd yn ei flwyddyn gyntaf

Gwasanaethau Oedolion

Ch1: Gwasanaeth wedi’i weithredu


Ch3: System wedi’i hadolygu

  • ­Paratoi i gaffael System Rheoli Gofal newydd (i’w weithredu yn 2025/26)

Gwasanaethau Oedolion

Ch1: Cadarnhawyd y cwmpas

Strategaeth Cymunedau

  • ­Adolygu ac alinio comisiynu cymunedol (Adolygu Grant y Trydydd Sector yn sylweddol) i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r gofynion Cynghori, Cymorth ac Atal ym mhob un o'n cymunedau

Cymunedau ac Adnewyddu

Diwedd Ebrill (Ch1): Cytuno ar gwmpas adolygu grant y Trydydd Sector yn sylweddol gan gynnwys cerrig milltir y prosiect

Ch2: Cyflwyno argymhellion o ran cymeradwyo a llinell amser i'w gweithredu

Ch3: Cymeradwyo

  • ­Gweithio gyda phob Cyngor Cymuned i baratoi cynllun gweithredu ar gyfer sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wella gwytnwch a lles yn eu cymuned

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Cytuno at Gynlluniau Gweithredu gyda phob ardal Cyngor Cymuned


Ch1: Cyflwyno a lledaenu hyfforddiant ar drawma i hybiau cymunedol


Ch1: Canfod a grymuso arweinwyr cymunedol i ddatblygu seilwaith cymunedol


Ch2: Cyflwyno hyfforddiant ar arddull "Hyfforddi’r Hyfforddwr" i arweinwyr cymunedol


Ch2: Sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer hyrwyddwyr cymunedol yn cyd-fynd â’r Dull Rhwydwaith Lles Integredig

 
Ch3: Cymeradwyo

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • ­Nifer yr achosion o gysylltwyr cymunedol a gaewyd na chawsant eu hagor wedi hynny i’w hasesu gan ofal cymdeithasol yn ystod y 6 mis nesaf

Cymunedau ac Adnewyddu

100 o achosion Cysylltwyr Cymunedol na chawsant eu hagor wedi hynny i’w hasesu gan ofal cymdeithasol yn ystod y 6 mis nesaf

  • ­Cofnodi nifer yr achosion o Gysylltwyr Cymunedol a gaewyd, sydd wedi cynnal neu wella annibyniaeth

30 o achosion Cysylltwyr Cymunedol a gaewyd, sydd wedi cynnal neu wella annibyniaeth

  • ­Cyfranogwyr y mae eu hiechyd meddwl a lles wedi gwella yn ystod y cyfnod y maent yn gadael y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn

110 o gyfranogwyr y mae eu hiechyd meddwl a les wedi gwella yn ystod y cyfnod y maent yn gadael y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn

  • ­Nifer y neuaddau cymunedol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ychwanegol sy'n bodloni'r blaenoriaethau lles cymunedol a nodwyd

10 neuadd gymunedol yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • ­Cynnal cyfran y bobl sy'n ystyried bod gwasanaeth cymorth i chwilio am Swydd yn y llyfrgelloedd yn ddefnyddiol ar 98% neu uwch

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

98% o bobl yn teimlo bod y gwasanaeth cymorth i chwilio am swydd yn ddefnyddiol

Grant Cymorth Tai

  • ­Darparu Cynllun Ailgartrefu Cyflym 2024/25 a rhaglenni Grant Cymorth Tai fel rhan o'n nod i atal digartrefedd a darparu'r llety a'r cymorth cywir i unigolion sy'n ddigartref

UCGC

Ch2: Cwblhau Pearl House a brysbennu


Ch3: Archwiliad Anghenion Hyfforddi


Ch4: Datgomisiynu 14 o Unedau TA sydd o Ansawdd Gwael

  • ­Ail-lunio ac ailffocysu llwybr llety ieuenctid er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc mewn angen ac mewn perygl o fod yn ddigartref

Cwblhau’r Adolygiad Ch2 2024/25

  • ­Ychwanegu 20 o unedau tai â chymorth ychwanegol ac ail alinio’r ddarpariaeth llety â chymorth i leihau'r nifer sydd mewn perygl o ddigartrefedd

Darparu 20 o unedau tai â chymorth ychwanegol i'r rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd erbyn mis Mawrth 2025

  • ­Atal digartrefedd mewn o leiaf 50% o achosion lle mae perygl o ddigartrefedd

Atal <50% o achosion digartrefedd

  • ­Canran yr aelwydydd sydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy ar ddiwedd pob chwarter

<20% o aelwydydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy

Prydau Ysgol Am ddim i Bawb

  • ­Gweini cyfanswm o 702,000 o brydau maethlon i ddisgyblion cynradd

Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau

Gweini 702,000 o brydau bwyd i ddisgyblion cynradd erbyn mis Mawrth 2025

Cynllun Datblygu Lleol

  • Byddwn yn sicrhau cartrefi fforddiadwy drwy'r system gynllunio

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cael ei arwain gan y cais

  • Byddwn yn sicrhau 150 o gartrefi fforddiadwy i'w gwerthu yn ystod 3 blynedd olaf y Cynllun Sirol

Tai

50 o gartrefi (yn ystod 2024/25)

Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Deddf Tai (Cymru) 2014; a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)

  • Byddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch drwy ymateb i gwynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynny.

Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2025

Gwytnwch Bwyd a Rhaglen Ffyniant Gyffredin Bwyd i Dyfu

  • Creu a chyflwyno Strategaeth Fwyd yn seiliedig ar adroddiad ymgynghori Cysylltiadau Tyfu Bwyd gyda'r nod o gyflawni Blaenoriaethau Bwyd Da Torfaen sydd wedi’u cynnwys yn Siarter Bwyd Torfaen. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy greu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 2025-2026.

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar waith erbyn mis Mawrth 2025

  • Cyflwyno Cynllun Grant Datblygu Bwyd sy'n canolbwyntio ar fusnes

 £150,000 – darparu cyfanswm o 19 o Grantiau Datblygu Bwyd

  • Cyflwyno Cynllun Bwyd Cymunedol, cefnogi prosiectau bwyd cymunedol yn y trydydd sector i wella’r gallu i gael hyd i fwyd fforddiadwy ac iachus.

£272,000 – darparu cyfanswm o 17 o Grantiau Cynllun Bwyd Cymunedol

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 4

Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol

Amcan Llesiant 4
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Cynllun Teithio Llesol

 

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth

 

  • ­Gweithio gyda Network Rail a'r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd i sicrhau bod Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd yn agor yn ddiogel

Priffyrdd

Medi 2024

  • ­Darparu cyfres o gynlluniau Teithio Llesol yn 24/25 yn unol â'r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol a gymeradwywyd (darperir manylion cyn gynted ag y derbynnir cadarnhad o geisiadau cyllido llwyddiannus)

Dyddiad cwblhau’r cynlluniau Mawrth 2025.

 

Cofnodi’r Cerrig milltir  pan fydd rhaglen gyflawni pob cynllun wedi'i chwblhau, yn amodol ar gyllid.

  • ­Cyflwyno prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (darperir manylion cyn gynted ag y derbynnir cadarnhad o geisiadau cyllido llwyddiannus)

Mawrth 2025

  • ­Gweithio ar y cyd ar draws Dinas-ranbarth Caerdydd i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i nodi effeithiau lleol a hyrwyddo anghenion Torfaen.

Mawrth 2025

Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

  • ­ Asesu effaith y prosiect 20mya a gwneud unrhyw welliannau ar y cyd â 'Chanllawiau Gosod Terfyn Cyflymder Lleol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yng Ngwanwyn 2024.

Priffyrdd

Rhagfyr 2024

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • ­Cynyddu canran cwsmeriaid llyfrgell yn y cartref sy’n cytuno bod y gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau i 95% (Mesur Blynyddol)

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

95% o gwsmeriaid yn cytuno bod y gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau

  • ­Cynyddu nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn i 3,600 fesul 1,000 o'r boblogaeth

3,600 o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus (fesul 1,000 o'r boblogaeth)

Strategaeth Cymunedau

  • ­Hyrwyddo ‘Rhwydwaith Cysylltu Torfaen’ ar y cyd, fel y prif lwyfan (digidol a heb fod yn ddigidol) i drigolion Torfaen gael mynediad at weithgareddau a chymorth sy’n cael eu harwain gan y gymuned.

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Trwy Grŵp Cyflawni Cysylltu Torfaen, rhoi argymhellion adolygiad Cysylltu (cynllunio sy'n canolbwyntio ar y cwsmer) ar waith

Ch2: Cymeradwyo  


Ch1: Hyfforddiant digidol a rhaglen benthyca offer ar waith (TÎM BRC)

 

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 5

Byddwn yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol

Amcan Llesiant 5
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Cynllun Gweithredu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur

  • Ailgylchu 100 o feiciau ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd mewn angen yn Nhorfaen

Tîm Ysbrydoli

Ailgylchu 100 o feiciau erbyn Mawrth 2024

Cynllun Gweithredu’r Argyfwng  Hinsawdd a Natur

Prosiect Apollo

  • ­Cyflwyno rhaglen lleihau ynni dan arweiniad data mewn safleoedd sy'n eiddo i CBST ac sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor.

Priffyrdd, Ynni a Newid Hinsawdd

Mawrth 2025

  • Gosod 4 prosiect pwmp gwres ar draws ein hystâd

Rhagfyr 2024

  • ­Cynyddu mesurau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ar safleoedd CBST

Mawrth 2026

  • ­Rhoi cynllun gweithredu fflyd sero net a rhaglen sy’n cael ei rheoli gan ddata, ar waith i leihau allyriadau’r fflyd a chynyddu arbedion

Medi 2025

  • ­Cynyddu nifer y safleoedd gwefru EV a ddarperir ar safleoedd y Cyngor, ar gyfer y fflyd, cymudwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol

Mawrth 2025

  • Mabwysiadu'r Cynllun Ynni Ardal Leol

Mawrth 2025

  • ­Cyflawni prosiect effeithlonrwydd ynni Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i leihau eu hallyriadau carbon

Medi 2024

Cynllun Gweithredu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur

  • ­Datblygu Cynllun Gweithredu i helpu i leihau allyriadau CO2e Cwmpas 3 o feysydd y gallwn ddylanwadu arnynt (cymudo, gweithio gartref), trwy:
    • Gwella mynediad at ddata a gedwir gan CBST, er mwyn ein galluogi i ddadansoddi ein hallyriadau yn llawn (Cymudo, gweithio gartref).
    • Gwella dadansoddeg CO2e i alluogi byrddau cyfarwyddwyr i chwarae rôl fwy gweithredol.

Priffyrdd, Ynni a Newid Hinsawdd

Mawrth 2025

Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2019

  • ­Byddwn yn cwblhau'r broses i ddynodi cwm Blaensychan yn Warchodfa Natur Leol (GNL) a gweithredu'r cynllun rheoli cysylltiedig i gyfrannu at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth.

Tîm yr Amgylchedd

Mawrth 2025

  • ­Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ariannu i wella'r amgylchedd naturiol lleol, a chyflwr parciau lleol a mannau awyr agored cyhoeddus.

Mawrth 2025

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • Byddwn yn cyflawni cytundeb partneriaeth 2024/25 gyda Bron Afon, gan sicrhau bod y tir a mannau gwyrdd yn cael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw mewn modd cynaliadwy i gefnogi anghenion y cymunedau yn Nhorfaen.

Tîm yr Amgylchedd

Mawrth 2025

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd Ucheldiroedd Cydnerth De-ddwyrain Cymru

Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2019

  • ­Byddwn yn cyflwyno Prosiect Ucheldiroedd Cydnerth mewn partneriaeth â Heddlu Gwent, perchnogion tir comin a rhanddeiliaid eraill i wella’r ffordd y caiff y tir ei rheoli, ansawdd y dŵr, y pori, bioamrywiaeth a’r modd o storio carbon yn Ucheldiroedd De-ddwyrain Cymru.

Tîm yr Amgylchedd

Mawrth 2025

  • ­Byddwn yn paratoi Cynlluniau Rheoli newydd ar gyfer parciau trefol, gan nodi amcanion ar gyfer eu rheoli a'u gwella i hyrwyddo amgylcheddau trefol mwy gwyrdd a glan.

Mawrth 2025

Cynllun Gweithredu Ailgylchu a Gwastraff

  • ­Nodi sut rydym yn bwriadu cynyddu ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ac yn creu cynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer cyflawni (Dolen i Ffrwd Waith 2 – y Cynnig Ailgylchu).

Y Tîm Gwastraff ac Ailgylchu

Gwanwyn 2025

  • Bwrw ymlaen â'n cynlluniau i adeiladu cyfleuster didoli deunyddiau ailgylchu o’r newydd. Bydd y gwaith yn dechrau o fewn amserlen gynllunio (Dolen i Ffrwd Gwaith 3 - Seilwaith).

Rhagfyr 2024

  • Cefnogi’r Cyngor a busnesau preifat i gydymffurfio â newidiadau i’r gyfraith ailgylchu sy'n dod i'r amlwg fel y gallant ailgylchu mwy (Dolen i Ffrwd Waith 4 - Ailgylchu Busnes).

Ebrill 2024

  • ­ Datblygu, ymgynghori a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi/proses orfodi (yn gysylltiedig â Newid Ymddygiad (Ffrwd Waith 5).

Medi 2024

  • ­Cyflwyno ymgyrch addysg ac ymgysylltu newid ymddygiad "Codi'r Gyfradd" i gynyddu cyfraddau ailgylchu (cam 2)

UCGC

Ch1 2024/25

Cynllun Aer Glân i Gymru

  • ­Byddwn yn monitro ansawdd aer yn y fwrdeistref, gan nodi ac adrodd ar unrhyw angen i weithredu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd.

Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2025

Strategaeth Digidol yn Gyntaf i Gwsmeriaid - Uchelgais C

  • ­Sefydlu llinell sylfaen ar gyfer ôl troed carbon digidol y Cyngor (sy'n cynnwys: allyriadau cwmwl y Cyngor, carbon sydd wedi’i ymgorffori mewn caledwedd ac ynni a ddefnyddir gan weinyddwyr

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Ch1-3 Cysylltu â gweinyddwyr systemau, y GRhA, Vantage; Ch4 – sefydlu llinell sylfaen

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 6

Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog egin fusnesau a busnesau newydd

Amcan Llesiant 6
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • ­Cefnogi 25 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd i bobl ifanc

Tîm Ysbrydoli

25 o bobl ifanc wedi derbyn cefnogaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd i bobl ifanc erbyn Mawrth 25

Cynllun Gweithredu’r Argyfwng  Hinsawdd a Natur

  • ­Datblygu 10 cynllun datgarboneiddio ar gyfer busnesau (drwy brosiect ynni y Gronfa Ffyniant Gyffredin)

Priffyrdd, Ynni a Newid Hinsawdd

Mawrth 2025

  • Gosod 3 prosiect seilwaith ynni carbon isel neu ddi-garbon (trwy'r prosiect ynni y Gronfa Ffyniant Gyffredin)
  • ­Cefnogi 1 Cynllun Cerbydau Trydan Cymunedol

Cynllun Datblygu Lleol

  • Byddwn yn ymgysylltu â busnesau mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r CDLl

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Dan arweiniad y cais

Rhaglen Rheoli Asedau

  • ­Rheoli'r portffolio eiddo masnachol i gefnogi twf busnesau bach a chanolig a gwneud y mwyaf o deiliadaeth

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Mawrth 2025

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Creu a gweithredu Prosbectws Buddsoddi i hyrwyddo adnewyddu a sefydlu tir diwydiannol newydd

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Mawrth 2025

  • ­Sefydlu campws arloesi blaenllaw o ran Ysbyty Athrofaol y Faenor

Adolygiad Pellach

Rhagfyr 2024

  • ­Cyflwyno'r achos busnes i Ganolfan Arloesi Busnes Springboard ddod yn hwb mewn rhwydwaith o ofodau arloesi ar gyfer busnesau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.

Mawrth 2027

  • ­Rhoi’r porth busnes Cyswllt Busnes (prosiect Cymorth Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin) ar waith, fel un pwynt cyswllt ar gyfer siwrneiau cwsmeriaid busnes, yn cynnwys datblygu a chyflwyno Fframwaith Ymgysylltu Busnes Torfaen

Mawrth 2025

  • ­Cyflawni prosiect Ecosystem Busnes Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mawrth 2025

  • ­Cefnogi'r gwaith o gyflawni Prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin Fforwm Strategol Torfaen

Mawrth 2025

  • ­Paratoi Strategaeth Rheoli Asedau Pum Mlynedd gynhwysfawr ac integredig newydd a Chynllun Gweithredu / Buddsoddi

Medi 2024

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

 

  • ­Cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar stondinau yn y Farchnad Dan Do

Cymunedau ac Adnewyddu

Y nifer sydd wedi cymryd stondinau yn y farchnad dan do i fyny i 74%

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 7

Byddwn yn hybu ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella lles meddyliol a chorfforol

Amcan Llesiant 7
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Fframwaith ar ymwreiddio dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol

Y Cynllun Sirol Egwyddorion Marmot

  • ­Cefnogi Arweinwyr Gweithredu ac 8 ysgol newydd i ddefnyddio offeryn Hunanasesu’r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant

Ysgolion Iach

Recriwtio 8 ysgol newydd i ddefnyddio offeryn Hunanasesu’r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant

Cynllun Gwasanaeth Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid 2024/25

Polisi Gorfodi a Chydymffurfio Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd

  • ­Byddwn yn arolygu busnesau bwyd, ac yn cymryd unrhyw gamau gorfodi priodol lle canfyddir nad yw busnesau’n cydymffurfio, er mwyn sicrhau diogelwch bwyd

Diogelu Bwyd ac Iechyd

Mawrth 2025

  • ­Byddwn yn arolygu busnesau bwyd i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a bod safleoedd yn dweud y gwir am eu bwyd

Trwyddedu a Safonau Masnach

Mawrth 2025

Polisi Gorfodi a Chydymffurfio Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd

  • Byddwn yn diogelu pobl rhag niwed sydd ynghlwm wrth werthu fêps yn anghyfreithlon drwy ymyrryd i sicrhau bod masnachwyr sydd yn eu gwerthu yn cydymffurfio â’r cyfreithiau perthnasol

Trwyddedu a Safonau Masnach

Cwblhau 2 brosiect amlasiantaeth erbyn Mawrth 2025

Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru

  • ­Cynyddu'r cynnig o opsiynau lles cyfannol i bobl ifanc drwy weithgaredd gwaith ieuenctid, dan arweiniad pobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac wedi ei ddylunio ganddynt

Gwasanaeth Ieuenctid

Cynnig dewisiadau lles cyfannol i 2,000 o bobl ifanc erbyn Mawrth 25

Gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol

Prosiectau S106 ar gyfer chwarae

Archwiliad digonolrwydd chwarae

  • ­Cyflawni prosiect cae 3G Llantarnam

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2024/25

 

Strategaeth Cymunedau

  • ­Datblygu canllawiau ar gyfer rhaglen wirfoddoli i gefnogi cyfleoedd i ddarparu gweithgaredd gwirfoddol ochr yn ochr â'r Cyngor  

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Penderfyniad Ie/Na gan y Tîm Arweinyddiaeth ynghylch a ddylid ymgymryd â chyfleoedd gwirfoddoli corfforaethol


Ch1: Canllawiau wedi'u datblygu a'u cymeradwyo


Ch2: Ymgyrch hyrwyddo gwirfoddoli (Prosiectau a gwasanaethau mewnol)


Ch3: Cymeradwyo  

 

Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru; a Strategaeth gordewdra Pwysau Iach: Cymru Iach

  • Cwblhau Strategaeth Chwaraeon a Hamdden

UCGC

 

Cwblhau Ch3 yn 2024/25

Strategaeth Chwaraeon a Hamdden

  • ­Canran yr ysgolion y gweithiwyd gyda nhw i'w cefnogi i annog 60 munud o ymarfer corff y dydd i ddisgyblion

UCGC

 

Gweithio gyda 90% o ysgolion a’u cefnogi i annog 60 munud o ymarfer corff y dydd

Gweithredu’r Cynllun Datblygu Lleol

Prosiectau S106 ar gyfer chwarae

Archwiliad digonolrwydd chwarae

  • Adnewyddu ac uwchraddio Cyrtiau Tenis Blaenafon

 

Tîm yr Amgylchedd

Cwblhau’r gwaith adnewyddu ac uwchraddio erbyn Mawrth 2025

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 8

Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag e

Amcan Llesiant 8
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Fferm Gymunedol Greenmeadow

  • ­Cwblhau’r gwaith o adnewyddu’r fferm a chyflwyno’r cynnig newydd i ymwelwyr a’r model gweithredu busnes

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Tendro ar gyfer y gwaith


Ch2: Lansio ymgyrch farchnata


Ch3: Cwblhau’r gwaith cyfalaf


Ch4: Recriwtio a hyfforddi staff


Ch4: Cadarnhau trefniadau ail-lansio

Uwch Gynllun Y British

  • ­Dechrau gwaith (yn raddol) fel rhan o’n nod aml-flwyddyn i ddargyfeirio Nant Blaengafog ar safle’r British o’r cwlferi ac i mewn i sianel newydd, yn rhan o gam cyntaf uwch gynllun Y British

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Penderfynu ar gronfa lliniaru llifogydd


Ch1: Cyflwyno cais i’r Gronfa Domen Lo


Ch2: Penderfyniad ar gais y gronfa Domen Lo


Ch3: Tendro ar gyfer y gwaith


Ch4: Dechrau’r gwaith

  • ­Bwrw ymlaen â’r gwaith dichonoldeb gydag IDRIS i archwilio'r llwybrau treftadaeth, ynni gwyrdd, amaethyddiaeth a chyfleoedd ar gyfer ymwelwyr sy'n ymwneud â'r uwch gynllun ehangach Y British.

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Cytundeb Menter ar y Cyd yn ei le


Ch4: Astudiaeth Ddichonoldeb wedi'i chwblhau


Ch4: Penderfyniad Ie/Na ar yr achos busnes

Strategaeth Economi a Sgiliau – Cynllun Creu Lleoedd Pont-y-pŵl

 

  • ­Gweithredu prosiectau Cronfa Ffyniant Bro Pont-y-pŵl i adfywio canol ein trefi ac annog economi gyda'r nos gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau lleoedd o ansawdd da i fwyta ac yfed

Cymunedau ac Adnewyddu

 

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Ch1: Tendro ar gyfer y gwaith ar y caffi a’r maes parcio


Ch2: Dechrau’r gwaith adeiladu


Ch4: Tendro ar gyfer masnachfraint y caffi (Caffi wrth Fynediad y Parc)

Strategaeth Economi a Sgiliau -
Cynllun Creu Lleoedd Cwmbrân

 

  • ­Sefydlu Bwrdd Tref Cwmbrân i gyflawni camau cyntaf Cynllun Creu Lleoedd Cwmbrân a chytuno ar y Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi.

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Datblygu cyflwyniad "cynllun tymor hir ar gyfer trefi"


Ch1: Datblygu cais am fenthyciad ar gyfer Monmouth Square i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

 

Ch2: Cyflwyno cynllun tymor hir ar gyfer cynnig trefi


Ch3: Penderfyniad Ie/Na ar Gwent House


Ch4: Cwblhau Gwent Square (HoF gynt)

Strategaeth  Economi a Sgiliau

  • Hyrwyddo Torfaen fel ‘Cyrchfan’, a gweithio gyda’n hatyniadau rhagorol i ymwelwyr fel y gallwn gynnig pecynnau deniadol i ymwelwyr dydd a thros nos, yn cynnwys lleoliadau ledled y Fwrdeistref

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1: Ystyried a gweithredu canfyddiadau Gweithdai Twristiaeth Gymunedol Blaenafon

 
Ch2: Comisiynu gwaith i fwrw ymlaen  â Chysyniad Cyrchfan Torfaen

Strategaeth Y Gamlas

  • ­Cyflawni cam cyntaf y cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer Camlas Mynwy ac Aberhonddu i wella cyfleusterau i ddefnyddwyr camlesi lleol a dechrau adeiladu'r achos dros adfer camlesi

Cymunedau ac Adnewyddu

Ch1 Cyflwyno 2 ddigwyddiad gwirfoddoli (rheoli ffromlys)


Ch2: Datblygu cynllun rheoli’r gamlas gyda Grŵp Gweithrediadau’r Gamlas


Ch2: Datblygu cynllun rheoli'r gamlas


Ch2: Datblygu brand ar gyfer cyrchfan y gamlas


Ch3: Cyflwyno 26 o ddigwyddiadau lles ar lan y gamlas (yoga)


Ch4: Sefydlu rhaglen wirfoddoli ar gyfer y gamlas

Papur Gwyn Diogelwch Tomenni Glo (Cymru)

  • ­Datblygu Strategaeth Rheoli Tomenni Glo a Chynllun Cyflawni i ddiogelu a gwella'r amgylchedd lleol a chadw ein cymunedau'n ddiogel rhag risgiau yn y dyfodol, unwaith y cyhoeddir Canllawiau Llywodraeth Cymru.

Priffyrdd, Ynni a Newid Hinsawdd

Paratoi cynllun erbyn Mawrth 2025 yn amodol ar dderbyn arweiniad gan LC

Deddf Rheoli Traffig

  • ­Cyflwyno prosiect Car Camera i helpu i leihau parcio difeddwl, gwella mynediad i wasanaethau cyhoeddus a gwella'r briffordd gyhoeddus i sicrhau ei bod heb rwystrau, felly’n creu amgylchedd diogel i bawb.

Priffyrdd, Ynni a Newid Hinsawdd

Gorffennaf 2025

Polisi Gorfodi a Chydymffurfio Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd

 

Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

  • ­Byddwn yn ymgymryd â mentrau gwyliadwriaeth, mewn cydweithrediad â Strydlun, i ganfod y rhai sy'n tipio’n anghyfreithlon a chymryd camau gorfodi lle bo hynny'n briodol.

Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2025

Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon 2021-2026

 

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • ­Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau a chymunedau i gyflawni mentrau ac annog mwy o ffocws ar atal sbwriel a thipio anghyfreithlon i ddiogelu'r amgylchedd lleol.

Tîm yr Amgylchedd

Mawrth 2025

Polisi Gorfodi a Chydymffurfio Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd

 

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • ­Byddwn yn adolygu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoli cŵn yn Nhorfaen i werthuso ei effeithiolrwydd wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan bobl anghyfrifol sy’n berchen ar gŵn, a phenderfynu a oes angen unrhyw newidiadau.

Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2025

Nôl i’r Brig

Amcan Llesiant 9

Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 9
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2024/25

Strategaeth Gymunedol

  • ­Sefydlu rhaglen wirfoddoli i alluogi’r cam o gyflwyno Gwasanaeth ‘Darllen i Mi’ fydd yn dod â manteision therapiwtig sydd ynghlwm wrth ddarllen ar y cyd i gwsmeriaid nad ydynt yn cymdeithasu, ac yn fregus.

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

Rhaglen wirfoddol “Darllen i Mi” ar waith erbyn Ch2  2024/24

Strategaeth Digidol yn Gyntaf i Gwsmeriaid

  • Ailgynllunio modelau gweithredu ym mhob un o'r 3 chanolfan Gofal Cwsmer; archwilio cyfleoedd i weithio allan yn y gymuned i fodloni a rheoli’r galw gan gwsmeriaid yn well

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

 

Ch1: Datblygu opsiynau amlinellol i lywio ymgysylltiad â'r gymuned; Gweithgaredd ymgysylltu â'r Gymuned

 

Ch2: Arfarnu opsiynau a phenderfyniadau; Cynllun brandio/cyfathrebu Gofal Cwsmeriaid; Hyfforddiant staff;

 

Ch3: ymlaen – cyflwyno ac adolygu

  • ­Gweithredu canfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwyfan data cydweithredol i ddarparu ateb ar sail Barn y Plentyn

Ch1: Adolygu canfyddiadau’r astudiaeth; Datblygu cynigion gyda’r GRhA

Ch2: Data profion/arbrofion

  • ­Mewn partneriaeth â'r Tîm Technoleg Cynorthwyol a Chwmpass, darparu rhaglen o weithdai technoleg gynorthwyol mewn llyfrgelloedd i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad, cadw’n ddiogel a meithrin gwytnwch.

 

Rhaglen Technoleg Gynorthwyol ar waith erbyn Ch1 yn 2024/25

  • Datblygu proses glir ac effeithlon gyda chyflymder mewn golwg, ar gyfer defnyddio synwyryddion LoRaWAN (Technoleg diwifr a ffordd o gysylltu dyfeisiadau synhwyro a phecynnau gyda’i gilydd ar Rhwydwaith Ardal Eang)

Yn dibynnu ar eangder y porth a chyllid SPF,

 

Ch3: Datblygu a phrofi proses rhwydwaith ardal eang ystod hir (LoRaWAN) ar gyfer meysydd gwasanaeth.

 

Ch4: Mynd yn fyw gyda phroses a gymeradwywyd.

Strategaeth Digidol yn Gyntaf i Gwsmeriaid

  • ­Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas’ ar "Galw Torfaen" i 2% o’r holl alwadau

 

Cwsmeriaid, Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

 <2% yn rhoi’r gorau i alwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas

  • Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Budd-daliadau’ ar “Galw Torfaen” i 8% o’r holl alwadau

<8% yn rhoi’r gorau i alwadau ar gyfer Budd-daliadau

  • Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Treth y Cyngor’ ar “Galw Torfaen i 8% o’r holl alwadau.

 <8% yn rhoi’r gorau i alwadau ar gyfer popeth yn ymwneud â Threth y Cyngor

  • ­Cadw’r un gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ar gyfer pob gwasanaethau arall ar “Galw Torfaen” i 10%

 

<10% yn rhoi’r gorau i alwadau ar gyfer pob gwasanaeth arall

  • ­Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas ar "Galw Torfaen"  i dan 60 o eiliadau.

<60 o eiliadau o amser aros ar gyfartaledd am alwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Budd-daliadau ar "Galw Torfaen" i 360 o eiliadau.

<300 o eiliadau o amser aros ar gyfartaledd ar gyfer galwadau Budd-daliadau

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Treth y Cyngor ar "Galw Torfaen" i 360 o eiliadau

<360 o eiliadau o amser aros ar gyfartaledd ar gyfer Treth y Cyngor

  • Cadw’r un gyfradd aros ar gyfartaledd ar "Galw Torfaen" ar gyfer yr ‘holl wasanaethau eraill’ i 360 o eiliadau.

<360 o eiliadau o amser aros ar gyfartaledd ar gyfer pob gwasanaeth arall

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

  • Casglu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth a chynnal arolwg trigolion i lywio penderfyniadau'r cyngor.

 

UCGC

Cwblhau’r prosiect erbyn Ch4 24/25

Cofrestryddion

  • ­ Cofrestru 98% o enedigaethau cyn pen 42 o ddiwrnodau

­       

UCGC

98% o enedigaethau’n cael eu cofrestru o fewn 42 o ddiwrnodau

  • ­Cofrestru 98% o farw-enedigaethau o fewn 42 o ddiwrnodau

98% o farw-enedigaethau yn cael eu cofrestru o fewn 42 o ddiwrnodau

  • ­Cofrestru 90% o farwolaethau (nad ydynt yn galw am wasanaeth y crwner) ar ôl derbyn dogfennaeth i gofrestru’r farwolaeth o fewn 5 diwrnod.

90% o farwolaethau yn cael eu cofrestru ar ôl derbyn dogfennaeth i gofrestru’r farwolaeth o fewn 5 diwrnod. (nad oedd angen gwasanaeth y crwner)

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Tel: 01495 762200

Email: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig