PN153 - Hysbysiad Preifatrwydd Trafnidiaeth i Deithwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Uned Trafnidiaeth Integredig
Manylion Cyswllt: itu@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Trafnidiaeth i Deithwyr

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Rhoddir yr hysbysiad yma at ddibenion eglurder ynglŷn â pha wybodaeth y mae ei hangen ar y Cyngor er mwyn prosesu ceisiadau Trafnidiaeth o Gartref i’r Ysgol/Cytundebau trafnidiaeth Gofal Cymdeithasol.  Mae angenrheidiol i’r Cyngor gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â phobl sy’n ymgeisio. Mae’r Cyngor yn cyflwyno mesurau i warchod preifatrwydd unigolion trwy gydol y broses hon.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi i brosesu ceisiadau Trafnidiaeth o Gartref i’r Ysgol ac i gymeradwyo staff i’w defnyddio gyda chytundebau trafnidiaeth  

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, gan Ysgolion, ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Addysg, Addysg Bellach (colegau), Gweithredwyr a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Rydym yn cael peth o’r wybodaeth yma’n uniongyrchol oddi wrthych chi, er enghraifft, systemau derbyniadau ysgol neu’r Adran ADY. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu o’r ffurflen gais trafnidiaeth/staff neu drwy e-bost ble bydd cofnodion yn cael eu diweddaru.
  • I yrwyr a chynorthwywyr teithwyr, ceir y wybodaeth yma o broses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn iddyn nhw gael eu cymeradwyo i ymgymryd â gwasanaethau trafnidiaeth ar ran y Cyngor.
  • Efallai byddwn hefyd yn cael gwybodaeth gan ysgolion, colegau a sefydliadau gofal cymunedol, ac o Uned Cymorth Busnes y Cyngor.
  • Trwyddedu Tacsis (gyrwyr trwyddedig CBST yn unig).

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Uned Trafnidiaeth Integredig yn casglu:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • I yrwyr a chynorthwywyr teithwyr, mae’r manylion hefyd yn cynnwys rhif tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
  • Manylion adnabod fel dyddiad geni.
  • Gwybodaeth arall mewn perthynas ag unrhyw anghenion arbennig sydd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys plant, sy’n cael eu cludo, er mwyn galluogi darparu trafnidiaeth ddiogel ac addas.
  • Yr ysgol, coleg neu sefydliad gofal cymdeithasol y mae trafnidiaeth yn cael ei ddarparu ato.
  • Llun pasbort ble mae gofyn.

Mae gan rai cerbydau TCC, nodwch os gwelwch yn dda bod hyn yn cael ei weithredu a’i brosesu gan y gweithredwyr trafnidiaeth.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • (e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Mae angen y wybodaeth yma ar y Cyngor er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan:

  • Y Ddeddf Addysg (Darpariaethau Amrywiol) 1996
  • Deddf Trafnidiaeth 1985
  • Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009
  • Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011
  • Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr 2014
  • Canllawiau Statudol Cod Ymddygiad Teithio 2009
  • Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig 2002
  • Y Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2002

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU. I yrwyr a chynorthwywyr teithwyr, ceir y wybodaeth yma o broses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn iddyn nhw gael eu cymeradwyo i ymgymryd â gwasanaethau trafnidiaeth ar ran y Cyngor.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau er mwyn galluogi’r Cyngor i brosesu eich cais a chydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau partner. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Adran Addysg
  • Yr Adran Ddiogelu
  • Yr Uned Cymorth Busnes
  • Cwmnïau Tacsis a Bysiau sy’n ymgymryd â chytundebau Cartref i’r Ysgol/Gofal Cymdeithasol
  • Ysgolion

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • System ffeilio electronig diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Hyd at 7 mlynedd

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Damien Weeks, Economi ac Amgylchedd, Tŷ Blaen Torfaen, Panteg Way, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl NP4 0LS, itu@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/11/2023 Nôl i’r Brig