PN152 - Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Eco Flex 4

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd
Manylion Cyswllt: Anne Garratt - anne.garratt@torfaen.gov.uk - 01633 647288
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cynllun Eco Flex 4

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (fel Rheolwr Data) yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol at ddibenion prosesu ffurflen gais ECO 4 a gyflwynwyd ar eich rhan gan asiant-gwmni / gosodwr sydd wedi ei gymeradwyo. Bydd mynd ati i brosesu yn galluogi'r Cyngor i wirio'r wybodaeth a rhoi datganiad cynghori i'r cwmni asiant/gosodwr.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn asesu a yw deiliaid tai yn gymwys i fod yn rhan o gynllun ECO4.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan LD ECO LTD at ddibenion prosesu ffurflen gais ECO 4 a gyflwynir ar eich rhan gan LD ECO Ltd.

A

Efallai y bydd y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu hefyd yn cael ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych chi i brosesu'r cais.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Drwy gysylltu â chi drwy ffurflenni cais ar-lein, e-bost, ffôn neu wyneb yn wyneb.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan y gosodwr, LD ECO LTD
  • Gwybodaeth gan fudiadau trydydd parti fel Cyngor ar Bopeth Cymru.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd yn casglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Dyddiad geni
  • Statws teuluol
  • Buddiant yn yr eiddo (perchennog neu denant)
  • Incwm y cartref
  • Derbynneb Treth y Cyngor
  • Gwybodaeth iechyd / meddygol

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • (e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus. Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth ac mae sail bendant i’r swyddogaeth yn ôl y gyfraith.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

  • Erthygl 9 (2)(g) Budd cyhoeddus sylweddol.

(Amodau perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 yw – Atodlen 1 Rhan 2: Cefnogaeth i unigolion ag anabledd neu gyflwr meddygol penodol)

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwasanaethau Cwsmeriaid CBST
  • Cyngor BST
  • Tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd CBST

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar gyfer prosesu ffurflen gais ECO4. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Rheoleiddiwr ECO 4 Ofgem
  • LD Eco Ltd

Gellir defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi i ni i atal a chanfod twyll ac at ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol.

Bydd y wybodaeth bersonol yr ydym wedi'i chasglu gennych yn cael ei rhannu gydag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Mae rhagor o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gennym ni a'r asiantaethau atal twyll dan sylw a gallwch ddod o hyd i’ch hawliau diogelu data drwy ymweld â gwasanaeth atal twyll CIFAS-UK - https://www.cifas.org.uk

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • Sharepoint – system cwmwl diogel
  • Rhwydwaith ddiogel Civica

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cadw eich gwybodaeth am uchafswm o 3 blynedd o ddiwedd y cynllun yn unig.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB Ffôn: 01495 762200, E-bost: calltorfaen@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2023 Nôl i’r Brig