PN149 - Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Darparwyr Gofal Plant y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Addysg – Blynyddoedd Cynnar
Manylion Cyswllt: Hayley Morgan
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Arolwg Darparwyr Gofal Plant y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae casglu eich data’n gwella gallu Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i gydlynu ac asesu’r cyflenwad a’r galw am ofal plant cynaliadwy yn yr awdurdod lleol.  Mae casglu data hefyd yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Lleol gynllunio ehangu gofal plant yn y dyfodol

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  •  Arolwg Ar-lein o Ofal Plant

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw Busnes
  • Manylion cyswllt
  • Grwpiau oedran cyflenwad y gwasanaeth
  • Amser agor y busnes
  • Dewis iaith
  • Nifer o leoedd gofal plant cofrestredig neu anghofrestredig
  • Cyfleusterau busnes
  • Cod Post
  • Nifer o leoedd gofal plant ar gael ar sail lefelau staffio
  • Nifer o leoedd gwag
  • Manylion cyswllt personol (os cyflynir hwy)

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Mae angen i’r Cyngor brosesu eich data er mwyn gallu darparu gwasanaeth statudol i fodloni gofynion y Ddeddf Gofal Plant 2006, adrannau 22, 26 a 27 trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Mae eich data hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer monitro mesurau perfformiad ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol at ddibenion gweinyddu arolygon gofal plant, cytundebau a gweinyddu cleientiaid

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau at ddibenion adrodd ar y gwasanaeth.  Yn yr achos hwn bydd data’n cael ei droi’n ddienw. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Llywodraeth Cymru
  • DEWIS Cymru

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • Gyriant rhwydwaith diogel
  • Storfa ddiogel yn y cwmwl

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac ydym

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â; Hwb ABS y Blynyddoedd Cynnar 01495 742101, earlyyearsABSHub2@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at  Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023 Nôl i’r Brig