PN148 - Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a’r Amgylchedd
Maes gwaith: Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol
Manylion Cyswllt: europexternalfunding@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.go.uk

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth am y modd y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y cyfeirir ato fel ‘CBST’, ‘y Cyngor’, ‘yr Awdurdod Lleol’, ‘ni’) yn defnyddio (neu’n ‘prosesu’) data personol am unigolion, at y diben o fod yn Arweinydd Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer dyraniad yr Awdurdod Lleol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn mor glir a chryno â phosibl. Serch hynny, gallai categorïau’r data personol yr ydym yn eu prosesu amrywio gan ddibynnu ar ganllawiau monitro Llywodraeth y DU.

Dylid darllen yr hysbysiad hwn ar y cyd â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (www.gov.uk)

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi fel rhan hanfodol o’r broses o gyflawni prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fel ein bod ni’n gallu cysylltu â chi ynghylch eich prosiect ac at ddibenion monitro. Efallai y byddwn hefyd yn ei defnyddio  i gysylltu â chi am faterion sy’ benodol i’r Gronfa.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Trwy alwad ffôn
  • Trwy e-bost
  • Trwy lythyr
  • Trwy ymweliad personol â’r Ganolfan Ddinesig
  • Trwy gyfryngau cymdeithasol
  • Trwy ffurflenni cais electronig

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi? 

Efallai y byddwn yn prosesu data personol sy’n gysylltiedig â’r canlynol fel corff sy’n Arweinydd Rhaglen CBS Torfaen ar gyfer Cynllun Buddsoddiad Lleol Torfaen o dan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

a. Buddiolwyr y cyllid Ffyniant Gyffredin (Unigolion/Busnesau/Staff)

Efallai y byddwn yn prosesu’r categorïau canlynol o ddata personol:

Unigolion

b. Gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, a chyfeiriad e-bost.

c. Manylion a allai ddatgelu pwy ydych chi, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhif y gyflogres.

d. Data ariannol am y gyflogres.

e. Amgylchiadau personol unigol gan gynnwys profiad o gyflogaeth a chyrhaeddiad addysgol.

Busnesau

f. Rhif cofrestru Tŷ’r Cwmnïau

g. Enwau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost cyflogeion

h. Data Ariannol am y Gyflogres

i. Manylion cyfrif banc

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd y data personol hefyd yn cael ei rannu gyda’r sefydliadau allweddol canlynol er mwyn cyflawni rhwymedigaethau’r Cyngor fel awdurdod arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Wrth rannu’r data personol, rydym yn rhannu’r lleiafswm sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r diben.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
PwyDiben

Awdurdod Arweiniol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dibenion monitro a gwerthuso

Llywodraeth y DU - Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Dibenion monitro a gwerthuso

Adrannau eraill y Cyngor - Cyllid

Gwneud taliad grant UKSPF 

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

  • Bydd eich data personol yn cael ei storio ar system TG ddiogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Rydym yn cadw’r data personol a geir yng nghofnodion Cynlluniau Buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU am:

  • Hyd at 7 mlynedd o ddyddiad cymeradwyo’r Cynlluniau Buddsoddi. Rhagwelir mai Ionawr 2030 fydd y dyddiad hwn.

Rheswm – Gofyniad a gyflwynir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. 

Yn unol ag egwyddor cyfyngu ar storio Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, adolygir cofnodion o bryd i’w gilydd. Ni chedwir yr holl ddata personol. Cedwir data personol sy’n berthnasol i’r cofnod yn unig am y cyfnod cadw cyfan. Dinistrir gwybodaeth nad oes ganddi werth hirdymor neu dystiolaethol fel rhan arferol o’n prosesau busnes. 

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Rob Wellington, Pennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol trwy e-bostio rob.wellington@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig