PN144 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Busnes Torfaen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Tîm Ymgysylltiad Busnes
Manylion Cyswllt: Kate Blewitt
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cyswllt Busnes Torfaen

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r Hysbysiad yma’n gosod gerbron sut bydd data personol y mae Cyswllt Busnes Torfaen yn ei gasglu oddi wrthych chi yn cael ei brosesu, ei ddefnyddio a’i ddatgelu gennym.

Mae gwasanaethau a ddarperir gan Gyswllt Busnes Torfaen sy’n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac a gyfeirir atynt fel gwasanaethau yn yr Hysbysiad yma’n cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cynorthwyo, cyfarwyddo, cynghori a chyfeirio busnesau (gan gynnwys busnesau cychwynnol)
  • Clybiau Busnes
  • Cymorth Buddsoddiad Mewnol
  • Cynhyrchion ariannol
  • Digwyddiadau busnes

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi’n:

  • Cysylltu â ni ynglŷn â’n gwasanaethau
  • Cofrestru ar gyfer a/neu brynu a/neu gytuno i dderbyn neu fynd at ein gwasanaethau
  • Cydsynio i dderbyn gohebiaeth marchnata a gwybodaeth
  • Cymryd rhan yn wirfoddol mewn ymchwil ac arolygon

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol oddi wrth wasanaethau eraill ar draws yr awdurdod.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Rydym yn casglu data personol trwy ddulliau ar ar-lein ac all-lein:

  • dros y ffôn
  • trwy’r wefan
  • yn ysgrifenedig
  • trwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • yn bersonol mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd
  • mewn cyfarfodydd 1:1

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Wrth i ni ddarparu gwasanaethau i chi a/neu eich bod yn mynd at y rhain, mae Cyswllt Busnes Torfaen yn casglu ac yn prosesu swm cyfyngedig o ddata personol. Bydd y math o wybodaeth yn amrywio yn ôl pa gymorth busnes yr ydym yn ei rhoi i chi a’ch busnes. Mae’r data personol y gallwn fod yn ei gasglu’n cynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriadau e-bost
  • Statws anabledd
  • Ethnigrwydd
  • Gwybodaeth ariannol

Data Busnes: Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am eich busnes neu eich busnes newydd posibl er mwyn i ni gynllunio, darparu a gwerthuso gwell wasanaethau yn ogystal â dadansoddi a phroffilio’r busnesau yr ydym yn cefnogi. Bydd unrhyw ddata sy’n fasnachol sensitif yr ydym yn ei gael wrth i ni ddarparu’n gwasanaethau’n cael ei drin yn gyfrinachol.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Rydym yn prosesu’ch data personol pan fyddwch yn rhoi caniatâd gwirfoddol, diamwys i dderbyn gohebiaeth yn ymwneud â busnes gennym. Yn yr ohebiaeth yma byddwn bob amser yn rhoi cyfle i ddewis hepgor. Gallwch hefyd ddanfon e-bost atom ar unrhyw adeg trwy businessdirect@torfaen.gov.uk neu ein ffonio ar 01633 648735 i stopio derbyn y rhain. Nodwch os gwelwch yn dda na fydd newidiadau efallai’n dod i rym yn syth. Byddwn yn ymdrechu i gydymffurfio â’ch cais cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl. Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw brosesu arall.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus. Mae Cyswllt Busnes Torfaen wedi ymrwymo i roi gwasanaeth proffesiynol i chi a datblygu gwelliannau i’n gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r data personol yr ydych yn ei roi i ni yn ein galluogi i gyflawni a bodloni’n rhwymedigaethau gyda chi â’ch busnes/sefydliad neu fusnes newydd posibl mewn ffordd effeithiol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Efallai byddwn yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol yn datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Efallai byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor sy’n gweithio gyda Chyswllt Busnes Torfaen i gynnig a chyflenwi gwasanaethau cymorth busnes perthnasol. Mae eich data’n cael ei rannu’n fewnol dim ond gyda’r staff priodol ble mae’n angenrheidiol i berfformio eu rolau.

Bydd angen i daliadau, os yn berthnasol, fod trwy’r gwasanaeth Gwnewch Daliad ar wefan Cyngor Torfaen.

Er mwyn gwella’n gwasanaethau, efallai byddwn yn rhannu gwybodaeth wedi ei throi’n ddienw, ymchwil a dadansoddiad gyda sefydliadau perthnasol eraill.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Cronfa ddata electronig diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â:

Kevin Davies, Rheolwr Systemau TGCh Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: Ffôn: 01633 647280 - E-bost: kevin.davies@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig