PN140 - Hysbysiad Preifatrwydd Taliadau Tîm 16+

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gofal Cymdeithasol a Thai
Maes gwaith: Gwasanaeth Cymorth Pobl Ifanc Torfaen (TYPSS) / 16+
Manylion Cyswllt: Kate Phillips - kate.phillips@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Taliadau Tîm 16+

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae TYPSS/16+ yn rhoi Gwasanaeth Plant Mewn Gofal ac Sy’n Gadael Gofal I bobl ifanc 16-25 oed. Mae gennym Gyfrifoldeb Rhiant dros rai pobl ifanc ac rydym yn gwneud penderfyniadau gyda nhw am eu bywydau a allai gynnwys penderfyniadau am arian.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi er mwyn hwyluso taliadau’n unol â’r Cynllun Llwybr.

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o’r Adran Waith a Phensiynau, Cyngor ar Bopeth (CAB), darparwyr Tai â Chymorth, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Llywodraeth Cymru (LlC) – mintai Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol, darparwyr Addysg, Hyfforddiant a Gwaith, Gofalwyr Maeth a/neu rieni.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Cynlluniau Llwybr
  • E-byst
  • Nodiadau achosion
  • Ffurflenni a gwblhawyd gan staff cymorth - electronig
  • Cyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • Ffôn

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae tîm TYPSS/16+ yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad, gan gynnwys e-bost a rhifau ffôn
  • Manylion banc
  • Rhesymau dros daliad
  • Cymhwyster ar gyfer arian
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion Addysg Hyfforddiant a Gwaith
  • Manylion teulu agosaf

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau Arbennig o ddata personol

Er mwyn hwyluso taliadau, dyw’r tîm ddim yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na data troseddol, serch hynny efallai caiff hyn ei brosesu yn rhywle arall yng nghofnodion y person ifanc hwnnw. Gall hyn gynnwys:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Mae hyn wedi ei gasglu o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau at ddibenion sicrhau bod taliadau’n gywir.  Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • CPIS/LlC
  • Adran Waith a Phensiynau
  • LCC
  • Darparwyr Tai Chymorth
  • Rhieni/Gofalwyr Maeth
  • Darparwyr Addysg Hyfforddiant a Gwaith

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
  • Gyriannau rhwydwaith diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Kate Phillips – kate.phillips@torfaen.gov.uk - 01633 647544 neu Kirsty Jenkins – kirsty.jenkins@torfaen.gov.uk , Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig