PN137 - Hysbysiad Preifatrwydd TCC Cerbyd Gwastraff

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Gwastraff ac Ailgylchu
Manylion Cyswllt: Nicholas Bennett
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: TCC Cerbyd Gwastraff

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae camerâu teledu cylch cyfyng (TCC) ar gerbydau gwastraff a weithredir gan y Cyngor er mwyn gwella ac amddiffyn diogelwch a buddiannau ein gweithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol ar ffurf fideo wrth ddefnyddio offer camerâu TCC ar ein cerbydau er mwyn cofnodi unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â’n gweithwyr neu gerbydau, gan gynnwys digwyddiadau traffig, biniau a fethwyd neu gamdriniaeth, er mwyn darparu tystiolaeth os oes angen ar gyfer yswiriant, cwynion neu i adnabod gweithredu anghyfreithlon.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Recordio fideo awtomatig o gwmpas y cerbyd

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r tîm Gwastraff ac Ailgylchu yn casglu:

  • Fideo (heb sain)

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

(f) Mae gennym ddiddordeb cyfreithiol.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond mae’n bosib y bydd yn cael ei gasglu wrth fynd heibio gan gamerâu ar y cerbyd. Gall hyn gynnwys:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond mae’n bosib y bydd yn cael ei gasglu wrth fynd heibio gan gamerâu ar y cerbyd. Rydym yn prosesu hyn dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu gyda meysydd gwasanaeth eraill o fewn y Cyngor, megis Cyfreithiol neu Yswiriant, os bydd angen hynny ar gyfer camau gorfodi pellach neu ymchwiliadau.

Gellir hefyd rhannu eich data yn allanol gyda sefydliadau i ddibenion ymchwiliadau Troseddol neu Sifil neu gamau cyfreithiol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Heddlu Gwent Police
  • Gwasanaeth Llysoedd

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Storfa ddigidol ddiogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae fideo yn cael ei drosysgrifo yn awtomatig ar ôl oddeutu 30 diwrnod os nad oes ei angen fel tystiolaeth. Mae unrhyw fideo sy’n cael ei gadw fel tystiolaeth i ddibenion yswiriant neu gamau cyfreithiol yn cael ei ddileu yn unol ag amserlenni cadw safonol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Nicholas Bennett, Arweinydd Grŵp – Ailgylchu, Gwastraff a Gweithrediadau Strategol – nicholas.bennett@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig