PN136 - Hysbysiad Preifatrwydd Camerâu a Wisgir ar y Corff

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Amddiffyn y Cyhoedd
Manylion Cyswllt: Kevin Davies
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Camerâu a Wisgir ar y Corff

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd yn cynnwys Trwyddedu, Safonau Masnach, Iechyd Cyhoeddus Gwasanaethau Masnachol ac yn casglu data fideo a sain i gynorthwyo gydag amddiffyn diogelwch Swyddogion, ac i gynorthwyo gyda gorfodi deddfwriaeth sy’n ymwneud ag amddiffyn defnyddwyr, y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu ar ffurf ffilm fideo a sain o ryngweithio gyda’r cyhoedd, yn cael ei gasglu yn uniongyrchol gan Gamerâu a Wisgir ar y Corff gan ein swyddogion. Efallai y bydd ffilm o unigolion nad ydynt yn rhan o’r rhyngweithiad yn cael ei dal yn ddamweiniol gan Swyddogion wrth ymgymryd â’u dyletswyddau. Bydd unigolion yn cael eu hysbysu bod Swyddogion yn ffilmio ar y pwynt cyswllt cyntaf.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Camerâu a wisgir ar y corff

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

  • Ffilm fideo a sain o ryngweithio gyda Swyddogion
  • Ffilm fideo a sain a gesglir yn ddamweiniol o’r amgylchfyd o gwmpas

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Gall hyn gynnwys:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Rydym yn prosesu hyn o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau. Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu gyda meysydd gwasanaeth o fewn y Cyngor, megis Cyfreithiol neu Yswiriant, os oes angen hynny ar gyfer camau gweithredu gorfodi neu ymchwilio pellach.

Efallai hefyd y bydd eich data yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau i ddibenion prosesu ymchwiliadau troseddol neu sifil neu achosion cyfreithiol. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i:

  • Heddlu Gwent Police
  • Gwasanaeth Llysoedd

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel:

  • Yn ddiogel yn y cwmwl
  • Mewn lleoliadau storio ar rwydwaith ddiogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae fideo yn cael ei ddileu yn awtomatig ar ôl 30 diwrnod os nad oes ei angen fel tystiolaeth. Mae unrhyw fideo a gedwir fel tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi neu gyfreithiol yn cael ei ddileu yn unol ag atodlenni cadw safonol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Kevin Davies yn kevin.davies@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig