PN134 - Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gofal Cymdeithasol a Thai
Maes Gwaith: Teuluoedd yn Gyntaf
Manylion Cyswllt: Simon Rushton, Rheolwr Tîm, Cymorth Teuluol ac Ymyrraeth Gynnar
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Daw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21ain Mawrth 2022 a bydd yn diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol. O hyn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithiol yng Nghymru.

Os bydd yr Heddlu'n penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn unigolyn sydd wedi cosbi plentyn yn gorfforol, efallai byddan nhw'n cynnig Datrysiad y Tu Allan i'r Llys (DTALl), i osgoi'r posibilrwydd o erlyniad trwy'r llysoedd. Un o amodau'r DTALl fyddai ymgysylltiad gyda chymorth rhianta gyda'r bwriad o ddatblygu arferion rhianta di-drais, cadarnhaol.

Rhoddir yr hysbysiad yma er eglurder o'r wybodaeth y mae'r Cyngor yn ei phrosesu pan fydd yn rhoi cefnogaeth rhianta fel rhan o DTALl. Mae'n angenrheidiol i'r Cyngor gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio ar gyfer cefnogaeth rhianta. Mae'r Cyngor yn cyflwyno mesurau i ddiogelu preifatrwydd unigolion trwy gydol y broses hon.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych chi er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu addasu cymorth at eich anghenion a'ch amgylchiadau.

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan Heddlu Gwent i'n galluogi ni i brosesu'r atgyfeiriad ar gyfer Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon

  • Ffurflen atgyfeiriad electronig
  • Sgyrsiau ffôn a chyfathrebu e-bost
  • Sesiynau wyneb yn wyneb

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Cynllun Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys yn casglu:

  • Rhif y digwyddiad
  • Enw a manylion cyswllt y troseddwr (cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost)
  • Dyddiad Geni
  • Rhywedd, ethnigrwydd, crefydd ac iaith ddewisedig
  • Unrhyw risgiau hysbys
  • Oedran y dioddefwr
  • Perthynas â'r plant/plentyn
  • Dyddiad a manylion y drosedd
  • P'un a yw'r troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb ac yn derbyn amodau'r DTALl
  • Pa DTALl sydd wedi ei ddefnyddio ac unrhyw amodau
  • Manylion ymgysylltiad â'r Cynllun Cefnogaeth Rhianta y Tu Allan i'r Llys

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data mewn perthynas ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff hwn ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Efallai bydd eich data'n cael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau at ddibenion monitro effeithiolrwydd y rhaglen ac olrhain cynnydd unigolyn, gan gynnwys lefelau ymgysylltiad. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Heddlu Gwent
  • Llywodraeth Cymru (data cydgasgledig dienw'n unig)

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac Ydym

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Cronfa ddata diogel - WCCIS (System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru)
  • Gyriant rhwydwaith diogel y Cyngor

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich Hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: (Simon Rushton, simon.rushton@torfaen.gov.uk)

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig