PN133 - Hysbysiad Preifatrwydd Profion Gyrru i Weithwyr Gofal Cartref

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes Gwaith: Tîm Comisiynu
Manylion Cyswllt: Rachael Lewis - commissioningunit@torfaen.gov.uk
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Profion Gyrru i Weithwyr Gofal Cartref

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Cefnogi’r gwaith o weinyddu mynediad â blaenoriaeth at brofion gyrru ymarferol ar gyfer y sector gofal cartref.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan eich cyflogwr i gefnogi mynediad â blaenoriaeth at brofion gyrru i weithwyr gofal cartref. Bydd eich cyflogwr yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol gennych chi.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Dylid cyflwyno'r wybodaeth trwy e-bost ar y ffurflen a ddarparwyd fel rhan o'r broses.

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Tîm Comisiynu yn casglu:

  • Enw
  • Rôl eich swydd
  • Rhif Trwydded Yrru
  • Rhif Archeb y Prawf Gyrru a'r math o brawf sydd ei angen
  • Manylion y cyflogwr

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau arbennig o ddata personol

Nid ydym yn casglu unrhyw gategori arbennig na data troseddol.

Pwy sy'n cael gweld eich data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol gyda’r staff priodol yn unig, lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw gyflawni'u rolau.

Gall eich data gael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau, i brosesu cais eich prawf gyrru neu at ddibenion ystadegol: Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau
  • Llywodraeth Cymru

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel:

  • Gyriannau Rhwydwaith Corfforaethol diogel y Cyngor

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Rachael Lewis, Rheolwr Comisiynu, 01495 742983, commissioningunit@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2 il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2023 Nôl i’r Brig