PN130 - Hysbysiad Preifatrwydd Grŵp Ariannu Ady

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Cynhwysiant / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Manylion Cyswllt Donna Lewis
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Grŵp Ariannu ADY

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Rydym yn derbyn a phrosesu data ar ôl cael cais gan ysgol i ystyried cyllid ychwanegol i gefnogi disgybl Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r ysgol wedi cael caniatâd gan y rhiant i ddisgybl fod ar gofrestr ADY yr ysgol a rhannu’r wybodaeth sydd ei hangen i dderbyn cyllid ADY.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gan yr ysgol sy’n gysylltiedig â’r person ifanc i alluogi i’r panel benderfynu ar gais yr ysgol am arian ychwanegol i gynorthwyo’r disgybl.

Rhaid i berson gyda chyfrifoldeb rhiant roi caniatâd i berson ifanc gael ei roi ar y gofrestr ADY a rhannu’r wybodaeth sydd ei hangen i dderbyn cyllid ADY.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Cais ffurflen electronig am gyllid wedi ei chwblhau gan yr ysgol a’i llofnodi gan y pennaeth, wedi ei hanfon i gyfeiriad ebost diogel
  • Copïau electronig o wybodaeth atebol e.e. map darpariaeth o’r ysgol wedi eu hanfon i gyfeiriad ebost diogel

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm ADY yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol
  • Enw’r ysgol/ddarpariaeth
  • Gwybodaeth am addysg
  • Gwybodaeth am anabledd/anghenion ychwanegol
  • Rhywedd
  • Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r achos

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data am iechyd

Rydym yn casglu hyn dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gydag aelodau’r panel lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Ffeiliau disgybl diogel ar gyfeirlyfr addysg y Cyngor ar yriant diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae’r gwasanaeth ADY yn cadw cofnodion yn unol â pholisi’r cyngor o 35 o flynyddoedd ar ôl cau’r cofnodion.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Donna Lewis. Uwch Reolwr ADY donna.lewis@torfaen.gov.uk 01495 766974

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2023 Nôl i’r Brig