PN128 - Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Bathodynnau Glas

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes Gwaith: Bathodynnau Glas
Manylion Cyswllt: bluebadge@torfaen.gov.uk
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Cynllun Bathodynnau Glas

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Cyflwynwyd y cynllun Bathodyn Glas (Parcio Pobl Anabl) yn 1971 o dan adran 21 Deddf Personau â Salwch Cronig ac Anabl 1970.

Mae'r cynllun yn cynnig trefniant cenedlaethol ledled y DU ar gyfer consesiynau ar gyfer parcio ar y stryd i bobl sydd â'r rhwystrau mwyaf i'w symudedd wrth geisio mynd at gyfleusterau yn y gymuned. Mae'r cynllun ar gael i bobl gymwys a allai fod yn teithio fel gyrrwr neu fel teithiwr.

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?

Er mwyn cwblhau'r amcanion uchod, gallwn gael eich data personol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y canlynol:

  • Yn uniongyrchol gan y sawl sy'n gwneud y cais
    • Yr unigolion eu hunain
    • Perthynas, gwarcheidwaid neu bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn
  • Yn anuniongyrchol gan sefydliadau partner
    • Yr Adran Waith a Phensiynau
    • Cyllid a Thollau EM
    • Sefydliadau a phobl gymeradwy yn gweithio gyda'r Cyngor
    • Llywodraeth Ganolog, asiantaethau ac adrannau'r Llywodraeth
    • Cynghorwyr neu ymarferwyr gofal iechyd, cymdeithasol a lles
    • Ymgynghorwyr meddygol a MT
    • Adrannau eraill yn y Cyngor

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni gan y bobl a restrir uchod. Bydd y Gwasanaeth Bathodyn Glas yn casglu, yn prosesu ac yn storio gwybodaeth bersonol er mwyn prosesu eich cais. Os nad ydych chi'n rhoi eich data, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth yma?

Gall y Cyngor gasglu'r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Yn ystod galwad ffôn i'r Ganolfan Gyswllt
  • Yn bersonol trwy sgwrs yn un o'n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid
  • Cais ar-lein trwy'r we neu ap symudol
  • Trwy Facebook, Twitter neu e-bost
  • O fewn system meddalwedd My Council Services
  • Gallwn hefyd gael ceisiadau personol wedi eu blaenyrru o GOV.UK ble mae cais yn cael ei gyflwyno ar-lein trwy'r wefan honno

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Wrth gyflenwi'r gwasanaeth Bathodyn Glas, rydym yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol pan fyddwch chi (neu eraill ar eich rhan) yn ei rhoi i ni:

  • enw
  • dyddiad geni
  • manylion cyswllt
  • rhywedd
  • man geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion cyswllt i aelodau eich teulu a'ch rhwydwaith o gefnogaeth os ydych chi am iddyn nhw eiriol ar eich rhan
  • copïau o ddogfennau sy'n dangos adnabyddiaeth ohonoch (er enghraifft, pasbort, tystysgrif geni) 
  • copïau o ddogfennau sy'n dangos eich cyfeiriad (er enghraifft, bil treth cyngor, llythyr am fudd-daliadau, trwydded gyrru, slipiau talu)
  • ffotograff

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

O dan Adran 21 Deddf Personau â Salwch Cronig ac Anabl (1970), mae gofyniad statudol arnom ni i gadw cofrestr yn dangos deiliaid bathodynnau a roddir gan yr awdurdod.

Rydym yn storio ac yn defnyddio’r data ar eich cais am Fathodyn Glas i:

  • Asesu a ydych yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas
  • Cynhyrchu a dosbarthu'r bathodyn
  • Monitro defnydd

Categorïau arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol;

  • data'n ymwneud ag iechyd - gwybodaeth feddygol yr ydych yn ei rhoi i gefnogi'ch cais

Os yw'n berthnasol, copïau o ddogfennau sy'n dangos eich bod yn gymwys am fudd-dal sy'n rhoi hawl awtomatig i chi i Fathodyn Glas

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sy'n cael gweld eich data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gall eich data gael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau i'n galluogi i brosesu a diogelu'r cynllun Bathodyn Glas i chi ac ymgeiswyr eraill. Gan fod gennym sail statudol dros gasglu eich data personol, nid oes angen eich caniatâd arnom ni i'w rannu; serch hynny byddwn yn rhannu data dim ond ar sail angen, yn unol â deddfwriaeth, a byddwn yn gweithio mewn ffordd dryloyw gyda chi ar bob adeg. 

Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Swyddfa'r Cabinet ar gyfer cydweddu data o dan y Fenter Twyll Cenedlaethol
  • Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol Able 2 sy'n ymgymryd â'r Asesiadau Symudedd Annibynnol ble mae angen i chi gael eich asesu ger mwy penderfynu a ydych yn gymwys
  • Awdurdodau Lleol eraill sy'n gweinyddu neu'n gorfodi'r Gwasanaeth Bathodyn Car Glas os byddwch yn symud i'w hardal neu'n defnyddio’r Bathodyn Glas yn eu hardal
  • Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog
  • Yr Adran Drafnidiaeth ac asiantaethau partner ar gyfer prosesu ceisiadau
  • Os ydych chi'n gymwys ar gyfer bathodyn, bydd eich manylion yn cael eu rhannu hefyd gyda APS gan eu bod nhw'n cynhyrchu ac yn dosbarthu'r bathodynnau
  • Byddwn yn cysylltu â'r Adran Waith â Phensiynau i wirio eich bod yn derbyn y budd-daliadau yr ydych wedi eu datgan mewn cysylltiad â'ch symudedd os nad ydych chi wedi rhoi tystiolaeth o hyn.
  • Bydd eich manylion yn cael eu rhannu â Valtech Limited gan eu bod nhw'n cynnal y system bathodyn glas yn genedlaethol

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data'n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn;

  • Llwyfan diogel My Council Services yn y cwmwl

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir ydy’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Bydd gwybodaeth yn cael ei gadw am 42 mis (ar ôl dyddiad y cais)

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data

Nac Ydym

Eich Hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â linda.king@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2 il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig