PN127 - Hysbysiad Preifatrwydd Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Manylion Cyswllt: Hayley Morgan
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â chasglu data gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o arolygon cyhoeddus a meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor i'w ddefnyddio i wella gwasanaethau e.e. arolwg trigolion.

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi'n llenwi arolwg gwella gwasanaethau.

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o feysydd gwasanaeth eraill y Cyngor a sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a sefydliadau sy'n bartneriaid (e.e. Arolygiaeth Gofal Cymru). Gwneir hyn at ddibenion gwella gwasanaethau.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Ffurflenni arolwg (electronig a phapur)
  • Llywodraeth Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Cymru

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Cyngor yn casglu:

  • Enw
  • Enw’r sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Oed
  • Rhywedd
  • Oed plentyn/plant
  • Manylion plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cyfeiriad E-bost:
  • Rhif Ffôn
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r arolwg sy'n cael ei chynnal

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon/seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni/arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Gallwn gasglu'r data categori arbennig a ganlyn yn ôl yr ymchwil neu'r arolwg:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • Cyflyrau meddygol/iechyd plentyn neu blant

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Mae adroddiadau dienw yn cael eu llunio a gall y cyhoedd eu gweld ar ein gwefan. Gall adroddiadau dienw fod ar gael i Awdurdodau Lleol eraill.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar:

  • Ffolderi electronig ar weinyddion diogel
  • Mae data o ffurflenni papur yn cael ei llwytho i fyny i weinyddion diogel ac mae'r ffurflenni'n cael eu rhwygo'n syth wedi hynny

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Cedwir y wybodaeth am 7 mlynedd.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Hayley Morgan, Rheolwr Gofal Plant, Canolfan Blant Integredig Cwmbrân, Ton Road, Llwyncelyn, Cwmbrân NP44 7LE neu hayley.morgan@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023 Nôl i’r Brig