PN120 - Hysbysiad Preifatrwydd Panel Ymyrraeth Gynnar

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Blynyddoedd Cynnar
Manylion Cyswllt: Charlotte Dickens
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Ymyrraeth Gynnar

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae angen i’r Cyngor brosesu data er mwyn gallu rhoi gwasanaeth i gwrdd â’ch anghenion chi ac anghenion eich teulu e.e. gweinyddu arian ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ac Anghenion Ychwanegol. Mae casglu eich data yn cynyddu gallu Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i gydlynu cefnogaeth ar draws asiantaethau mewnol ac allanol er mwyn darparu ymateb mwy diasiad i'ch anghenion chi ac anghenion eich plentyn ac yn sicrhau eich bod yn elwa o’r amrywiaeth o ymyraethau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu.

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi.

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o, ond heb fod yn gyfyngedig ,i Iechyd, Tafarn Newydd a Gofal Plant

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth yma?:

  • Ffurflenni papur ac electronig
  • Rhieni
  • Trwy drydydd parti, gwasanaethau allanol, e.e. Iechyd - Ymwelydd Iechyd, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Portage, Ffisiotherapyddion, Tafarn Newydd, Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig etc..

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r ffurflen gais am Ymyrraeth Gynnar yn casglu;

  • Enw'r Plentyn
  • Enw Rhieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid
  • Manylion Cyswllt
  • Cyfeiriad Rhieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid
  • Dyddiad Geni’r Plentyn
  • Cyfrifoldeb Rhiant
  • Rhyw
  • Anabledd
  • Ethnigrwydd
  • Iaith Ddewisedig
  • Manylion budd-daliadau
  • Manylion Banc, os oes angen
  • Asiantaethau partner allweddol sydd ynghlwm
  • Manylion Meddygol/Iechyd
  • Amgylchiadau personol/anghenion a gyflwynir

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Nodwch os gwelwch yn dda y gallwn ofyn am ganiatâd i ymgysylltu â'r gwasanaeth neu ar gyfer rhannu gwybodaeth â darparwyr, serch hynny, nid caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arno i brosesu'ch data personol.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol;

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data mewn perthynas ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gall eich data gael ei rannu hefyd yn allanol gyda sefydliadau i sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu a bod cefnogaeth wedi ei gydlynu yn ei lle.

Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig
  • Tafarn Newydd

Mae eich data hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adroddiad ar y gwasanaeth i randdeiliaid perthnasol fel Llywodraeth Cymru. Wrth roi adroddiad ar y gwasanaeth, mae data unigol yn cael ei droi’n ddienw.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Nac Ydy

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data'n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn;

  • Mae copïau papur yn cael eu sganio a'u storio'n electronig ar yriant diogel ar y rhwydwaith mewn ffeiliau â hygyrchedd cyfyngedig. Unwaith y byddan nhw wedi cael eu sganio mae dogfennau papur yn cael eu rhwygo
  • Capita ‘One'

Am ba mor hir ydy’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 7 mlynedd oni bai bod eich gwybodaeth wedi ei basio o dan ddyletswydd statudol ac, os felly, mae'r wybodaeth yn cael ei chadw am 25 mlynedd.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Panel Ymyrraeth Gynnar, EY-InterventionALNPanel@torfaen.gov.uk, 01495 742100

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2023 Nôl i’r Brig