PN119 - Hysbysiad Preifatrwydd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes Gwaith: Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Manylion Cyswllt: Tyrone.trace@torfaen.gov.uk
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cynnwys defnyddwyr Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ac mae'n egluro sut rydyn ni'n delio â'r wybodaeth bersonol yr ydych chi'n ei darparu o ganlyniad unrhyw ryngweithio â ni.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi'n ymweld â'r ganolfan, trefnu ymweliadau neu'n llogi ystafellm a thrwy fonitro TCC.

A

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan sefydliadau sy'n trefnu ymweliad neu sy'n trefnu i ddefnyddio ein ystafell gyfarfod ar ran grwpiau.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Ffurflenni archebu (electronig a/ neu ar bapur)
  • Fideo TCC
  • E-bost
  • Ffôn:

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn casglu;

  • Enw
  • Rhif Ffôn
  • E-bost
  • Cyfeiriad
  • Lluniau fideo drwy TCC

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Mae hyn yn ofynnol am unrhyw farchnata uniongyrchol ac os ydych chi'n ymddangos mewn lluniau neu fideo a ddefnyddir at ddibenion hyrwyddo. Mae caniatâd yn ymwneud yn unig a'r diben penodol y rhoddwyd ef amdano a gallwch dynnu'n caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw brosesu arall.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Gallwn gasglu'r categori arbennig os caiff ei ffilmio ar TCC;

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu barn wleidyddol
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data personol sy'n dangos aelodaeth o undeb llafur
  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, os caiff ei ddal ar TCC, caiff ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sy'n cael gweld eich data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau. Mae'r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (GRhA) yn monitro lluniau teledu cylch cyfyng o du allan y Ganolfan. Gallwch weld ei hysbysiad preifatrwydd drwy'r ddolen hon Hysbysiad Preifatrwydd y GRhA.

Gall eich data hefyd gael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau a hynny ar gyfer marchnata, lle rhoddwyd caniatad,a gellir rhannu data di-enw at ddibenion ystadegol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Croeso Cymru
  • Ffigurau pêl-droed STEAM

Gellir rhannu lluniau teledu cylch cyfyng yn allanol â sefydliadau er diogelwch Ymwelwyr a Staff ac i atal troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu
  • Yswiriant
  • Cynrychiolwyr Cyfreithiol;

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar;

  • Yriant diogel ar y rhwydwaith
  • Cofnodion papur (dinistrio ar ôl 28 diwrnod) mewn ystafell dan glo
  • Gyriant Caled TCC mewn ystafell dan glos

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae lluniau TCC sy'n cael ei recordio ar y safle yn cael ei drosysgrifo ar ôl 28 diwrnod. Os oes angen cadw lluniau yn hirach byddant yn cael eu trosglwyddo i fformat storio gwahanol a'u trin yn unol â gweithdrefnau storio a chadw data'r Cyngor.
  • Mae cofnodion ysgrifenedig sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol yn cael eu dinistrio ar ôl 28 diwrnod.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Tyrone Trace, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, ar Blaenavon.tic@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 13/11/2023 Nôl i’r Brig