PN117 - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgyngoriadau - Economi ac Amgylchedd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Economi ac Amgylchedd
Manylion Cyswllt: Donna Edwards-John
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Economi ac Amgylchedd - Ymgyngoriadau

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwrpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw eich hysbysu sut mae data personol a ddarperir i’r adran Economi ac Amgylchedd drwy ymgyngoriadau yn cael ei gasglu a’i storio.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi i ddibenion ymgynghoriad

Efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan sefydliadau partner eraill sy’n cymryd rhan, a all fod yn berthnasol i’r broses.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wy bodaeth hon:

  • Digwyddiadau Ymgynghori â’r Cyhoedd
  • Gweithdai
  • Ffurflenni Ymgynghori Arlein o Lwyfannau Ymgynghori
  • Cyfweliadau Wyneb yn Wyneb
  • Ffurflenni Ymgynghori Papur
  • Galwadau Ffôn
  • Ebost
  • Arolygon

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r adran Economi ac Amgylchedd yn casglu:

  • Enwau
  • Cyfeiriadau
  • Rhifau Ffôn
  • Cyfeiriad ebost
  • Gwybodaeth sy’n Berthnasol i’r Ymgynghoriad

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Yn dibynnu ar yr ymgynghoriad, gallwn gasglu’r data categori arbennig canlynol:

  • Data personol yn datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • Data yn ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hy n dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata ar droseddau.

Pwy sydd yn cael defny ddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Gellir rhannu data di-enw yn allanol gyda sefydliadau i ddibenion adrodd, gwella gwasanaethau a dadansoddi ystadegol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • WSP

Gellir cynhyrchu adroddiadau di-enw a’u cyhoeddi i’r cyhoedd eu gweld ar ein gwefan.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwy ddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar wait h i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel y n y mannau canlynol:

  • Ffeiliau Papur
  • Ffeiliau Electronig ar yriant rhwydwaith diogel
  • Gall Partneriaid Ymgynghori Arlein storio gwybodaeth berthnasol ar Gymylau Data.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod L leol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Bydd llwyfannau arlein yn dileu gwybodaeth pan fydd y broses ymgynghori wedi dod i ben.

Ydyn ni’n gwneud penderfy niadau awtomataidd/yn proffilio gy da’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cy ngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo d ata a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Linda Ash, Swyddog Cymorth Busnes, 01495 766712 Linda.ash@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2024 Nôl i’r Brig