PN116 - Hysbysiad Preifatrwydd Adnewyddu Cymunedol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Maes gwaith: Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol
Manylion Cyswllt: europexternalfunding@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Dynodwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen fel ‘Awdurdod Arweiniol’ ar gyfer Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Gwahoddwyd pob Awdurdod Arweiniol i gynnal proses gynnig leol a byddant yn gyd-reolwr data ar gyfer holl Ddata Personol sy'n gysylltiedig â Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a gesglir gyda'r ffurflenni perthnasol a gyflwynir fel rhan o'r broses hon.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi fel rhan hanfodol o broses gynnig Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â’ch cais ac at ddibenion monitro. Gallwn hefyd ei defnyddio i gysylltu â chi ynglŷn â materion sy’n ymwneud â’r Gronfa yn benodol.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Trwy alwad ffôn
  • Trwy e-bost
  • Trwy lythyr
  • Trwy ymweliad personol i’r Ganolfan Ddinesig
  • Trwy gyfryngau cymdeithasol
  • Trwy ffurflenni cais electronig

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Yn rhan o’r broses bidio bydd y math o wybodaeth a gesglir fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau fel y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol at ddibenion sy’n ymwneud â Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, a chontractwyr pan fyddant yn cael eu defnyddio at ddibenion monitro i werthuso’r rhaglen.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

  • Bydd eich data personol yn cael ei storio’n ddiogel ar system TG ddiogel.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am hyd at ddwy flynedd ar ôl cau'r broses gynnig. Amcangyfrifir mai Gorffennaf 2023 fydd hyn ar hyn o bryd. Fel rhan o'r broses fonitro, byddwn yn cysylltu â chi'n rheolaidd i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol.
  • Pe bai eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn dileu eich data personol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Rob Wellington, Pennaeth Polisïau Ewropeaidd a Chyllid Allanol ar rob.wellington@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig