PN115 - Hysbysiad Preifatrwydd Pontio ar ôl 16 i bobl ifanc sy'n agored i niwed

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Anghenion Dysgu Ychwanegol
Manylion Cyswllt Donna Lewis
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Pontio ar ôl 16 i bobl ifanc sy’n agored i niwed

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwrpas y broses a gefnogir gan yr Hysbysiad Preifatrwydd yw adnabod a chefnogi dysgwyr a all fod angen cynllun pontio manylach i symud yn llwyddiannus i Sefydliad Addysg Bellach (SAB), a sicrhau bod cynllun cyfannol ac effeithiol yn bodoli sy’n cynnwys y dysgwr, y teulu, y ddarpariaeth debygol ac unrhyw asiantaethau a sefydliadau perthnasol a all gynorthwyo yn y broses.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn anuniongyrchol gan staff yn yr ysgol rydych yn ei mynychu. Mae hyn ar ffurf taenlen wedi ei dylunio i sicrhau bod pawb sy’n chwarae rhan mewn cynllunio a phontio ar ôl 16 yn gallu:

  • Adnabod cyn gynted ag y bo modd unrhyw ddysgwr/person ifanc a all fod angen cymorth ychwanegol mewn perthynas â phontio i SAB o ganlyniad i Angen Dysgu Ychwanegol (ADY), amgylchiadau heriol, ymddieithrio rhag addysg neu unrhyw reswm arall.
  • Adnabod gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n cefnogi neu a allai gefnogi’r dysgwr/person ifanc wrth bontio i SAB er mwyn sicrhau bod holl weithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd cynllunio.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Caiff y daenlen ei hebostio at y sawl sy’n mynychu cyfarfodydd pontio drwy ebost diogel a’i chadw ar ffolder ar yriant M sy’n cael ei warchod gan SRS
  • Bydd unrhyw ddysgwyr a adnabyddir fel rhai sydd angen mesurau pontio manylach yn cael eu cofnodi felly ar System Reoli Gwybodaeth yr awdurdod lleol (One)

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r daenlen a ddarperir gan eich ysgol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad
  • Cod Post
  • Os ydych yn aelod o Gategori Agored i Niwed ESTYN
  • Data Gwahardd a Phresenoldeb
  • Statws Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Trefniadau mynediad i arholiadau
  • Cysylltiad gyda SENCOM (Gwasanaeth cymorth synhwyraidd a chyfathrebu)
  • Statws derbyn gofal. Cyfranogiad gofal cymdeithasol ar lefel Plentyn sy’n Derbyn Gofal, Cynllun Gofal a Chymorth neu Amddiffyn Plentyn, os yn berthnasol. Cyfranogiad Teuluoedd yn Gyntaf.
  • Cyfranogiad Iechyd ar gyfer materion a allai effeithio pontio
  • Mewn perygl o fod yn NEET (ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant) ai peidio
  • Statws cais i Sefydliad Addysg Bellach (SAB) os yw’n hysbys
  • Sefydliad y bwriedir ei fynychu os yn hysbys
  • Cyfranogiad proffesiynol (os yn berthnasol) e.e. Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, Ysbrydoli i Gyflawni, Gwasanaeth Lles Addysg, Gwasanaeth Seicoleg Addysg, Gwasanaeth Ethnigrwydd Lleiafrifol Addysg Gwent

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol (Erthygl 6c), Deddf ADY Cymru

(e) Rydym ei angen i ymgymryd â thasg gyhoeddus (Erthygl 6e)

(a) Cydsyniad yn achos pobl ifanc sydd wedi eu hadnabod fel rhai sydd angen prosesau pontio manylach ac sydd ganddynt Gynllun Datblygu Unigol – cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Cynllun Datblygu Unigol.

Nodwch nad cydsyniad yw’r sylfaen gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na throseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Rhennir eich data gyda’r sawl sy’n cael eu gwahodd i Gyfarfod Pontio AmlAsiantaeth yn Bl9, Bl10 a Bl11, sy’n cael eu trefnu gan yr ysgol rydych yn ei mynychu. Gofynnir i aelodau Gwasanaeth Addysg a fynychir i gadarnhau os ydynt yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y data a ddarperir gan yr ysgol, ac ehangu os oes angen ar unrhyw feysydd o bryderon os oes ganddynt wybodaeth a allai fod yn berthnasol i gefnogi eich proses bontio.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar wait hi sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Caiff data ei gadw ar rwydwaith diogel a Meddalwedd Gwybodaeth Reoli (One)

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw. Bydd yn cael ei ddinistrio dyddiad geni + 25 o flynyddoedd.

  • Bydd staff y Gwasanaeth Addysg yn dinistrio’r copi o’r daenlen a dderbyniwyd gan yr ysgol ar ddiwedd y Cyfarfod Pontio Aml-asiantaeth, gan sicrhau bod gan y disgyblion hynny sydd angen proses bontio fanylach Gyfranogiad wedi ei agor ar eu cyfer yn One.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Donna Lewis, Donna.Lewis@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2023 Nôl i’r Brig