PN107 - Hysbysiad Preifatrwydd Camerâu ar Flaen Cerbydau Prydau Cymunedol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gofal Cymdeithasol a Thai
Maes Gwaith: Prydau Cymunedol
Manylion Cyswllt: Gareth.bowd@torfaen.gov.uk
Enw Hy sbysiad Preifatrwydd: Camerâu ar Flaen Cerbydau Prydau Cymunedol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu manylion am gasglu data personol trwy ddefnyddio Camerâu ar flaen faniau Prydau Cymunedol (lle maent wedi'u ffitio).

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan Gamerâu ar flaen faniau Prydau Cymunedol. Mae'r Camerâu ar flaen y cerbydau yn trosysgrifo ar ôl 2 awr o recordio parhaus. Cofnodir gwybodaeth os bydd fan mewn damwain i gynorthwyo pan fydd angen penderfynu ar achos y ddamwain ac ar gyfer diogelwch gyrwyr.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Lluniau fideo sy’n cael eu recordio ar Gamerâu ar Flaen Cerbydau

Pa wy bodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae Camerâu ar Flaen Cerbydau Prydau Cymunedol yn casglu delweddau o;

  • Symudiadau Gyrwyr Prydau Cymunedol
  • Gyrwyr/beicwyr eraill
  • Cerddwyr
  • Golygfeydd o strydoedd ar hyd y daith

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

(f) Mae gennym ddiddordeb cyfreithiol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Gallwn gasglu’r data categori arbennig a ganlyn ar ffurf fideo:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu barn wleidyddol
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data personol yn datgelu aelodaeth unedau llafur
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sy dd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar ddiben yswiriant, diben cyfreithiol neu dystiolaeth o unrhyw droseddoldeb. Gall rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r:

  • Heddlu
  • Cwmnïau Yswiriant
  • Cyfreithwyr

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn.

  • Cardiau SD mewn Faniau Prydau Cymunedol (Yn y lle cyntaf)
  • Gyriant rhwydwaith diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Cedwir data i ddechrau am 2 awr ar y Cerdyn SD cyn i'r Camera sydd ar flaen cerbydau drosysgrifo unrhyw luniau.
  • Pan fydd y rheolwr Prydau Cymunedol neu'r rheolwr cyfrifol yn ei ystyried yn angenrheidiol yn unig y trosglwyddir data i'r Gyriant rhwydwaith diogel.
  • Bydd data'n cael ei ddileu o'r Gyriant rhwydwaith diogel pan nad oes ei angen mwyach ac yn unol â pholisi cadw'r Cyngor.

Ydyn ni’n gwneud penderfy niadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Gareth Bowd, Prydau C ymunedol, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl. NP4 6YB. E-bost Gareth.bowd@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2 il Lawr, T ŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig