Hysbysiad Preifatrwydd PN100 - Cymorth Cymunedol Torfaen

Telerau ac Amodau Trwydded ("Telerau")

Diweddarwyd diwethaf: 16/4/2020

Darllenwch y Telerau ac Amodau hyn ("Telerau", "Telerau ac Amodau") yn ofalus cyn defnyddio cais Cymorth Cymunedol Torfaen (y "Gwasanaeth") a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Rhaid i chi dderbyn a chydymffurfio â’r Telerau hyn cyn cael mynediad i'r Gwasanaeth a'i ddefnyddio. Mae'r Telerau hyn yn berthnasol i bob ymwelydd, defnyddiwr ac eraill sy'n cyrchu'r Gwasanaeth neu'n ei ddefnyddio.

Trwy gyrchu neu ddefnyddio'r Gwasanaeth rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn. Os ydych chi'n anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau, yna ni chewch gyrchu'r Gwasanaeth

Eiddo Deallusol

Datblygwyd y Gwasanaeth hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac mae'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sy'n cadw'r hawl i'r cynnwys gwreiddiol, nodweddion ac ymarferoldeb, a ddiogelir gan hawlfraint ryngwladol, nod masnach, patent, cyfrinach fasnach ac eiddo deallusol arall neu gyfreithiau hawliau priodol.

Cynnwys

Mae'r Gwasanaeth yn caniatáu ichi bostio, cysylltu, storio, rhannu ac fel arall sicrhau bod gwybodaeth, testun, graffeg, fideos neu ddeunydd arall ("Cynnwys") ar gael a fydd yn cael ei lunio trwy systemau TG Cynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am fewnbwn cynnwys eu gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr, asiantaethau sy’n bartneriaid a staff, o ran defnyddio’r Ap.

Gall y Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau neu wasanaethau trydydd parti nad ydynt yn eiddo nac yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Nid oes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw wefannau neu wasanaethau trydydd parti, ac nid yw'n cymryd unrhyw gyfrifoldeb drosto. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno ymhellach na fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, am unrhyw ddifrod neu golled a achosir neu yr honnir iddo gael ei achosi gan neu mewn cysylltiad â defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o'r fath sydd ar gael ar neu drwy unrhyw wefannau neu wasanaethau o'r fath

Newidiadau

Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i addasu neu ddisodli'r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Os yw adolygiad yn berthnasol, byddwn yn ceisio darparu o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn i unrhyw delerau newydd ddod i rym. Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â newid sylweddol yn cael ei bennu yn ôl ein disgresiwn llwyr.

Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i addasu neu ddisodli'r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Os yw adolygiad yn berthnasol, byddwn yn ceisio sicrhau o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn i unrhyw delerau newydd ddod i rym. Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â newid sylweddol yn cael ei bennu yn ôl ein disgresiwn llwyr.

Sut rydyn ni’n trin eich gwybodaeth bersonol

Mae'r geiriad isod yn adlewyrchu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol o dan ofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a ddaw i rym ar 25 Mai 2018 o ran darparu gwasanaethau hanfodol i bobl fregus gan gynnwys y Prosiect Gwarchod yn ystod pandemig Covid (PN100).

Rheolwr Data:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
d/o Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

Swyddog Diogelu Data a Rheoli Gwybodaeth:
01495 762200
E-bost: DPA@torfaen.gov.uk

1) Ydyn ni wedi cael eich data personol yn uniongyrchol gennych chi?

Do

Ydyn ni wedi cael eich data personol o ffynonellau eraill?

Do – mae wedi ei rannu gyda’r Cyngor yn unol â’r pwyntiau isod:

  • Gall hyn fod drwy berson sy’n eich cynrychioli neu yn gweithredu ar eich rhan i roddi manylion a amlinellir isod ym mhwynt 2. 
  • Mae gwybodaeth wedi dod gan y Gwasanaeth Iechyd dan gyfarwyddyd gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y sawl sydd wedi eu hadnabod o fewn manylion y Prosiect Gwarchod a amlinellir isod ym mhwynt 2.
  • Mae gwybodaeth wedi dod gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen (YHT) mewn perthynas â’r manylion Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff a amlinellir isod ym mhwynt 2.

2) Pa wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch?

Mae’r Cyngor yn casglu a phrosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch. Mae’n cynnwys y canlynol.

Bydd angen i wirfoddolwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad (gan gynnwys cod post)
  • Dyddiad Geni
  • Rhif ffôn cyswllt (ffôn symudol fyddai orau)
  • Cyfeiriad ebost
  • Swydd bresennol
  • Statws DBS presennol
  • Oes gennych chi gerbyd y gallwch ei ddefnyddio
  • Oes gennych chi yswiriant priodol ar gyfer y cerbyd
  • Disgrifiad o’r cymorth y gellir ei gynnig (o’r rhestr isod)
    • Galwadau lles/sicrhau bod rhywun yn iawn
    • Casglu a dosbarthu meddyginiaeth
    • Cymorth gyda siopa
    • Arall
  • Dilysu ID (gan gynnwys copïau o un neu fwy o’r isod)
    • Copi o Drwydded Yrru
    • Copi o Basbort
    • Copi o fil cyfleustodau
    • Copi o fil y Dreth Gyngor
    • Copi o fathodyn adnabod
  • Statws – argaeledd ar gyfer gwaith gwirfoddoli

Bydd angen i Ddefnyddwyr Gwasanaeth neu eu cynrychiolwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad (gan gynnwys cod post)
  • Dyddiad geni
  • Rhif ffôn cyswllt (ffôn symudol fyddai orau)
  • Cyfeiriad cyswllt ebost
  • Amlinelliad o’r gofynion yn unol â’r rhestr isod
    • Galwadau lles/sicrhau bod rhywun yn iawn
    • Casglu a dosbarthu meddyginiaeth
    • Cymorth gyda siopa
    • Arall

Manylion Atgyfeiriwr/Cynrychiolydd os ydych yn atgyfeirio neu’n gweithredu ar ran rhywun arall yna bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Rhif ffôn cyswllt (ffôn symudol fyddai orau)
  • Cyfeiriad cyswllt ebost
  • Caniatâd y defnyddiwr gwasanaeth

Bydd gwybodaeth Asesu a Dilysu yn cael ei storio ar yriannau rhwydwaith diogel o fewn y Cyngor ac mewn systemau cwmwl wedi eu hamddiffyn.

Mae gwybodaeth wedi ei chael gan y Gwasanaeth Iechyd dan gyfarwyddiadau gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y sawl sydd wedi eu hadnabod yn y Prosiect Gwarchod.

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhifau ffôn cyswllt
  • Rhif GIG y claf
  • Rhif cyfeirio eiddo unigryw (UPRN)
  • Cyfesurynnau’r eiddo

Mae gwybodaeth wedi dod gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen (YHT) mewn perthynas â’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff ac mae’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Oedran
  • Safle tanysgrifio e.e. Stadiwm Cwmbrân
  • Math o danysgrifiad
  • Cyfeiriad cartref
  • Rhif(au) ffôn cyswllt
  • Cyfeiriad ebost

3) Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth hon mewn amrywiol ffyrdd:

Gellir rhoi gwybodaeth atgyfeirio a gwirfoddoli yn y dulliau canlynol:

  • Ffôn
  • Ebost
  • Drwy’r Ap
  • Drwy’r porwr gwe

Mae gwybodaeth gan Iechyd, LCC a YHT wedi ei throsglwyddo’n ddiogel.

Byddwn yn storio eich data:

Bydd eich gwybodaeth ap yn cael ei storio mewn cwmwl wedi’i amgryptio. Bydd eich gwybodaeth asesu a dilysu yn cael ei storio ar yriannau rhwydwaith diogel yn y Cyngor ac mewn systemau cwmwl wedi eu hamddiffyn a gaiff eu rheoli gan staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen neu’r sawl sy’n gweithio ar ran y Cyngor dan yr amgylchiadau hyn.

4) Pam y mae’r Cyngor yn prosesu eich data personol?

Mae’n angenrheidiol i gyflawni tasgau er budd y cyhoedd neu oherwydd awdurdod a freiniwyd yn y Cyngor Choose an item.

Mae’r drefn hon wedi ei datblygu i ddelio gydag ymateb y Cyngor i gynorthwyo trigolion sy’n agored i niwed yn y gymuned er mwyn cynnal hunanynysu yn ystod COVID-19. Mae hyn wedi ei anelu at yr unigolion hynny sydd wedi eu hadnabod yn y rhaglen warchod, yr unigolion hynny sy’n hunan-ynysu oherwydd oedran a salwch ynghyd â’r sawl sy’n hunanynysu oherwydd bod y salwch ganddynt. Nid yw’r adnoddau yno i’r cyhoedd yn gyffredinol eu defnyddio mewn achosion lle gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gynorthwyo eu hunain yn unol â chyfarwyddyd gan y llywodraeth ganolog. 

Bydd hyn hefyd yn berthnasol i staff CBST sydd wedi eu hadleoli i gynorthwyo unigolion yn y gymuned.

5) Categorïau arbennig o ddata personol:

Ar gyfer yr Ap

Na. Yr wybodaeth a gesglir yn ystod y broses hon i ddefnydd yr Ap fydd data personol yn unig

Asesu a dilysu

Bydd unrhyw ddata categori arbennig a brosesir o fewn ein proses asesu a dilysu yn cael ei brosesu yn unol â rhesymau budd y cyhoedd yn y maes iechyd cyhoeddus Choose an item.

6) Pwy sy’n gweld eich data?

Gellir rhannu eich gwybodaeth yn fewnol gyda

  • Staff awdurdodedig y Cyngor sydd wedi eu dyrannu i’r rolau hyn

Mae’r Cyngor yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon fel y manylir isod:

Rhai sydd â chontract i weithio ar y prosiect hwn gan gynnwys

  • Staff cymorth Darparwr Cwmwl/ TG
  • Gwirfoddolwyr
  • Sefydliadau trydydd sector
  • Defnyddwyr Gwasanaeth
  • Fferyllwyr
  • Archfarchnadoedd
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Prawf
  • Yr Heddlu
  • Darparwyr Gofal

A yw’r data’n cael ei drosglwyddo allan o’r AEE?

Na

Bydd gwybodaeth asesu a dilysu yn cael ei storio ar yriannau rhwydwaith diogel o fewn y Cyngor ac mewn systemau cwmwl wedi eu hamgryptio.

Defnyddir darparwr gwasanaeth cwmwl (CSP) fel rhan o’n hamgylchedd brosesu. Mae’r CSP a ddefnyddir yn defnyddio cyfleusterau prosesu wedi eu lleoli yn yr UE, lle mae gwybodaeth yn cael ei hamddiffyn wrth ei throsglwyddo i neu o’r CSP drwy ddefnyddio protocolau a meddalwedd amgryptio.

7) Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

8) Am ba mor hir y mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sy’n angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyson ag amserlenni cadw Awdurdod Lleol.

9) A ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • canlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â Rheolwr Grŵp Tai a Chomisiynu (Simon Rose) Simon.Rose@torfaen.gov.uk  

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig