PN099 - Hysbysiad Preifatrwydd Troseddwyr Ifanc

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: ALN (GTI)
Manylion Cyswllt Tracy Tucker
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Troseddwyr Ifanc

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (GTI) yn cynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, gan Wasanaethau Troseddau Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen a chan Ysgolion.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Drwy drydydd parti o ddata ysgolion. Cesglir yr wybodaeth hon yn electronig drwy gyfrwng ebost.
  • Gan Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen. Cesglir y data yn electronig drwy ebost.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r tîm ALN yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol
  • Cyfeiriad y person ifanc
  • Oedran
  • Enwau rhieni
  • Manylion cyswllt rhieni/gofalwyr
  • Enw’r ysgol / darpariaeth addysg
  • Gwybodaeth addysgol
  • Statws Anghenion Dysgu Arbennig (ADY)
  • Statws Derbyn Gofal / Cyfreithiol
  • Data presenoldeb
  • Data cyrhaeddiad / asesiad
  • Data gwahardd
  • Asiantaethau eraill sy’n chwarae rhan
  • Rhywedd
  • Iaith y cartref
  • Manylion cysylltiad â GTI

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Gellir rhannu eich data yn fewnol gyda:

  • Y tîm ALN
  • Y gwasanaeth Addysg
  • Ysgolion

Rhennir gwybodaeth bersonol yn allanol hefyd gyda:

  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen i gyflawni trefniadau cydweithio sy’n sicrhau:
    • Cyflenwi arferion effeithiol yn y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid
    • Diogelu plant a phobl sy’n dod i gysylltiad a’r system cyfiawnder ieuenctid
    • Amddiffyn y cyhoedd rhan gweithgareddau niweidiol plant a phobl ifanc sy’n troseddu (yn unol a’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, 2013)

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Un System Reoli Gwybodaeth
  • Gyriant rhwydwaith diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae’r gwasanaeth ALN yn cadw cofnodion yn unol a pholisi cadw gwybodaeth y Cyngor o ddyddiad geni + 25 o flynyddoedd.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Tracy Tucker, Rheolwr ALN, tracy.tucker@torfaen.gov.uk 01495 766998

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 02/08/2023 Nôl i’r Brig