PN098 - Hysbysiad Preifatrwydd TCC SRS

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn

Maes Gwasanaeth CBST: UCGC
Maes Gwaith: Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS)
Manylion Cyswllt: srscomms@srswales.com
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: SRS - TCC

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gosod camerâu TCC (Teledu Cylch Cyfyng) mewn mannau amrywiol yn y fwrdeistref at ddibenion lleihau trosedd, anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofn trosedd trwy helpu i ddarparu amgylchedd diogel i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac i ymwelwyr sy'n teithio trwy'r ardal.

Ym mhob lleoliad, mae yna arwyddion sy'n dweud wrthych fod TCC ar waith ac yn rhoi manylion y sawl i gysylltu â nhw am wybodaeth bellach am y cynllun.

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth yma?

Mae SRS yn dal recordiadau byw trwy Gamerâu TCC.

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae recordiadau byw sy'n cael eu dal yn cynnwys:

  • Lluniau symudol
  • Lluniau llonydd
  • Manylion Cerbydau

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Mae'r wybodaeth yma'n cael ei dal yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth. Mae arwyddion amlwg yn yr ardal bel mae'r camerâu yn gweithredu i ddangos bod delweddau'n cael eu recordio at ddibenion atal trosedd a diogelwch cymunedol.

Mae TCC y Cyngor yn cydymffurfio'n llwyr â'r ddeddfwriaeth berthnasol i gyd. Bydd pob gosodiad newydd TCC yn destun cyflwyniad Achos Busnes ffurfiol.

Mae SRS yn darparu gwasanaethau TCC i Dorfaen a Sir Fynwy er mwyn

  • Cynorthwyo datgeliad ac atal trosedd
  • Darparu tystiolaeth i gynorthwyo ymchwiliadau'r Heddlu
  • Atal y rheiny sy'n bwriadu troseddu
  • Lleihau'r ofn o drosedd a rhoi hyder i'r cyhoedd eu bod mewn lle diogel
  • Darparu cymunedau mwy diogel
  • Lleihau digwyddiadau o fandaliaeth
  • Cynorthwyo i atal a datgelu ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cynorthwyo rheolaeth traffig yn ein trefi

Categorïau arbennig o ddata personol

Efallai bydd y Cyngor yn casglu'r data categori arbennig canlynol o fewn lluniau byw a llonydd:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu barn wleidyddol
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff hwn ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sy'n cael gweld eich data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau. Efallai bydd data'n cael ei rannu â meysydd gwasanaeth eraill gyda'r bwriad o ddatrys anghydfod neu gŵyn.

Efallai bydd eich data'n cael ei rannu hefyd gyda sefydliadau er mwyn datrys mater troseddol neu argyfwng. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau Brys Eraill
  • Partneriaid SRS

Mae'r Cyngor yn cyflogi staff hyfforddedig, a fydd yn monitro'r lluniau'n barhaus ac yn rhannu gwybodaeth gyda Heddlu Gwent neu Awdurdodau Trwyddedu pan fo angen.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Nac Ydy

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data'n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Gyriant diogel

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir ydy’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Rydym yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac mae'r data'n cael ei recordio 24/7 i yriant Computer Digital Systems. Mae hyn yn cael ei ddileu pob 30 diwrnod.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data

Nac Ydym

Eich Hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Matt Lewis, Prif Swyddog Gweithredu mattlewis@srswales.com

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig