PN095 - Hysbysiad Preifatrwydd Hebryngwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Gwasanaeth Lles Addysg
Manylion Cyswllt: Sarah Allard
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Hebryngwyr

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae hysbysiadau preifatrwydd yn ofyniad cyfreithiol o dan y GDPR, sy'n sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r ffordd y mae eu data personol yn cael ei brosesu.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi drwy ffurflen gais, gwiriad DBS a geirdaon, i'n caniatáu i brosesu'ch Cais i fod yn Hebryngwr.

A

Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol drwy wiriad DBS a geirdaon, i'n caniatáu i brosesu'ch Cais i fod yn Hebryngwr.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Ffurflen Gais
  • Gwiriadau DBS
  • Tystlythyrau

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn casglu;

  • Enw, cyfeiriad, rhif cyswllt, galwedigaeth, Dyddiad Geni, cyfeiriad e-bost, profiad, cymwysterau, manylion trwydded yrru, canlyniad gwiriad DBS, tystlythyrau.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(b) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.

(d) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol;

  • data mewn perthynas ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff hwn ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gall eich data gael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau, os yw'r hebryngwr yn gweithio i gwmni cynhyrchu, i hebrwng plant. Bydd yn rhaid i'r Awdurdod Lleol sy'n cynhyrchu'r drwydded i'r plentyn berfformio sicrhau bod enw'r hebryngwr a restrir yn gyfreithlon a bydd yn gwirio gyda'r Awdurdod Lleol sydd wedi trwyddedu'r hebryngwr.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar;

  • Gyriant diogel

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi unrhyw drydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti hwn ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyson ag amserlenni cadw'r Awdurdod Lleol. Cyswllt olaf + 10 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau yma, cysylltwch â Sarah Allard - Uwch Swyddog Lles Addysg - sarah.allard@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig