PN094 - Hysbysiad Preifatrwydd Presenoldeb Ysgol –

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Gwasanaeth Lles Addysgol
Manylion Cyswllt: Sarah Allard
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Presenoldeb Ysgol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni’n uniongyrchol gan Rieni/Gwarcheidwaid.

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol oddi wrth ysgolion ac asiantaethau eraill gyda chaniatâd gan Rieni/Gwarcheidwaid

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Systemau rheolaeth gwybodaeth
  • Gwybodaeth a rennir gan asiantaethau dros y ffôn ,trwy e-bost, llythyr, a ffurflen atgyfeiriad y GLlA.
  • Mae gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth rieni yn cael ei chasglu dros y ffôn, trwy e-bost, llythyrau ac yn ystod cyfarfodydd.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Gwasanaeth Lles Addysgol yn casglu;

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Enw Meddygfa
  • Enw a manylion cysywllt rhieni/gwarcheidwaid
  • Gwybodaeth addysgol
  • Statws plentyn mewn gofal
  • Manylion presenoldeb yn yr ysgol
  • Gwybodaeth feddygol oddi wrth y meddyg a/neu nyrs iechyd yr ysgol
  • Data presenoldeb
  • Gwybodaeth am amddiffyn plant
  • Nodiadau cyfarfodydd
  • Nodiadau sgyrsiau ffôn
  • E-byst yn cynnwys gwybodaeth bersonol oddi wrth asiantaethau eraill, yn fewnol ac yn allanol
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol;

  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau ar gyfer materion presenoldeb yn yr ysgol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Darparwyr Addysg, Gofal Cymdeithasol, yr Heddlu, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, pobl broffesiynol feddygol, SNAP Cymru, gwasanaethau cyfreithiol, awdurdodau lleol eraill, cymdeithasau tai, y gwasanaeth ieuenctid, y gwasanaeth chwarae, CAMHS, tîm iechyd meddwl cychwynnol.

Ac eithrio ble ddywedwyd eisoes, nid ydym yn trosglwyddo’ch manylion i drydydd partïon oni bai bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn;

  • Y rhwydwaith diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn unol ag amserlenni cadw’r Awdurdod Lleol. Dyddiad geni + 25 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Sarah Allard, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Ganolfan Ddinesig. Pont-y-pŵl. NP4 6YB – Sarah.Allard@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig