PN093 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyfranogiad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: UCGC
Maes gwaith: Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl
Manylion Cyswllt: getinvolved@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cyfranogiad

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â chasglu data gan y tîm Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl at ddiben gwella gwasanaethau.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltiad.

A

Efallai byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan sefydliadau gan sefydliadau partner y BGC (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

Rydym yn cael eich gwybodaeth gennych chi trwy:

  • Gofrestriad trwy rhai teclynnau cyfranogiad ar-lein.
  • Cofrestriad fel aelod o Banel Pobl Torfaen
  • Ymatebion i arolygon ar-lein a phapur
  • Sgyrsiau wyneb yn wyneb

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Gan ddibynnu ar sut byddwch yn ymgysylltu â ni a’r cwestiynau yr ydym yn gofyn, efallai bydd y tîm Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl yn gofyn i chi roi gwybodaeth am:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cod Post
  • Oedran
  • Rhywedd

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Efallai byddwn yn casglu’r data categori arbennig canlynol, gan ddibynnu ar y weithgaredd ymgysylltiad:

  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol unigolyn
  • data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Mae llwyfan meddalwedd gwefan Dweud Eich Dweud Torfaen, a’r gweithrediadau technoleg cysylltiedig yn cael ei rhedeg gan Bang the Table Pty Ltd. Mae’r Polisi Preifatrwydd sy’n rheoli’u gwasanaeth ar gael ar www.bangthetable.com/privacy-policy. I gael mwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd gwefan Dweud Eich Dweud Torfaen ewch i Polisi preifatrwydd | Cymerwch Ran Torfaen

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau er mwyn gwella’r gwasanaeth. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Sefydliadau Partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)
  • Grwpiau diddordeb arbennig sy’n chwarae rhan mewn cyflenwi neu wella gwasanaethau

Efallai bydd adroddiadau heb enwau’n cael eu cynhyrchu a’u rhoi ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ar ein gwefan.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • Ffeiliau electronig ar weinyddion diogel
  • Mae data o ffurflenni papur yn cael ei lanlwytho at weinyddion diogel ac mae’r ffurflenni’n cael eu rhwygo’n syth wedyn

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Ni fydd ymatebion ymgysylltu ar-lein yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Neil Jones, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltiad ar Argyfyngau Sifil Posibl trwy e-bost: neil.jones@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig