PN088 - Hysbysiad Preifatrwydd Parcio Sifil a Gorfodi Amgylcheddol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio ac Amddiffyn y Cyhoedd
Maes gwaith: Priffyrdd / Amddiffyn y Cyhoedd
Manylion Cyswllt: Kevin Davies
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Parcio Sifil a Gorfodi Amgylcheddol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r gwasanaeth Parcio Sifil a Gorfodi Amgylcheddol yn casglu data i gynorthwyo gyda gorfodi rheoliadau parcio ac amddiffyn yr amgylchedd.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi er mwyn i ni gyflwyno Hysbysiadau yn bersonol

NEU

Rydym yn derbyn gwybodaeth yn uniongyrchol gan y DVLA os ydym yn cyflwyno Hysbysiad mewn perthynas â’ch cerbyd, er mwyn canfod pwy yw’r perchennog cyfreithiol. Gallwn hefyd gael eich delwedd mewn recordiad fideo a wneir ar ein camerâu corff.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Wedi eich darparu gennych chi yn bersonol
  • Drwy chwilio databas y DVLA o geidwaid cerbydau cofrestredig
  • Camerâu a wisgir ar y corff

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r gwasanaeth Parcio Sifil a Gorfodi Amgylcheddol yn casglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhif cofrestru’r cerbyd
  • Recordiad fideo o’r cysylltiad gyda Swyddogion
  • Ffotograffau o’r cerbyd

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym ymrwymiad cyfreithiol

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau Arbennig o ddata personol

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond mae’n bosibl y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn recordiad fideo o’r camerâu a wisgir ar y corff. Gall hyn gynnwys:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy’n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol person

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond mae’n bosibl y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn recordiad fideo o’r camerâu a wisgir ar y corff. Rydym yn prosesu hyn dan Erthygl 10 GDPR y DU

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Gellir hefyd rhannu eich data yn allanol gyda sefydliadau i ddibenion prosesu taliadau ac adennill Hysbysiadau a gyflwynir am barcio. Gall hyn gynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:

  • Systemau ffeilio papur diogel
  • Lleoliadau storio rhwydweithiau diogel

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Caiff recordiad fideo ei ddileu ar ôl 30 diwrnod, ar ôl talu dirwy neu ar ôl cwblhau unrhyw gamau cyfreithiol

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Kevin Davies yn kevin.davies@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig