PN086 - Hysbysiad Preifatrwydd Datblygu Chwaraeon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaeth Addysg
Maes gwaith: Datblygu Chwaraeon
Manylion Cyswllt: Stuart Lawrence – 01633 628693
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Datblygu Chwaraeon

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.go.uk

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi er mwyn i ni eich hysbysu o unrhyw weithgareddau a/neu ddigwyddiadau perthnasol a’ch diweddaru am unrhyw wybodaeth ar gyllid neu grantiau.

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan bartneriaid megis Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac adrannau eraill o fewn y Cyngor.

Y rheswm dros gasglu’r wybodaeth hon yw er mwyn eich hysbysu o unrhyw weithgareddau a/neu ddigwyddiadau perthnasol, eich diweddaru ar unrhyw gyllid neu grantiau ac er mwyn gallu hysbysebu eich clybiau/grwpiau i’r cyhoedd.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau megis gwersylloedd gwyliau a chwaraeon drwy ffurflenni arlein, ffurflenni papur sy’n cael eu postio neu ffurflenni a gwblheir gyda chi ar y ffôn.
  • Pan fyddwch yn tanysgrifio i’n rhestri postio drwy ffurflenni ar y rhyngrwyd neu’r cyfryngau cymdeithasol arlein neu drwy gofrestru dros y ffôn.
  • Pan fyddwch yn cwblhau arolygon i ddibenion ymchwil a gwblheir mewn ffurflenni ar y rhyngrwyd neu’r cyfryngau cymdeithasol arlein neu dros y ffôn.
  • Pan fyddwch yn gofyn am help a chymorth i’ch clybiau neu grwpiau ac yn cofrestru drwy ffurflenni ar y rhyngrwyd neu’r cyfryngau cymdeithasol arlein neu ar y ffôn.
  • Gan Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Hamdden, GIG, yr Heddlu, adrannau eraill y Cyngor ac Awdurdodau Lleol eraill.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon yn casglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad ebost
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Mae angen hyn ar gyfer unrhyw farchnata uniongyrchol e.e. cylchlythyrau. Mae caniatâd yn ymwneud dim ond â’r diben penodol y mae e wedi ei roi ar ei gyfer a gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw broses arall.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Gallwn hefyd gasglu’r data categori arbennig canlynol ar gyfer ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ond mae’r wybodaeth hon yn ddienw:

  • data yn datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol person

A

Gall yr heddlu ar achlysur rannu gwybodaeth yn ymwneud â throseddau (a gadarnhawyd neu a honnwyd) i ddibenion diogelwch y cyhoedd.

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau a fydd yn caniatáu i ni eich cefnogi chi neu eich clwb/grŵp/mudiad yn fwy effeithiol. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddyn nhw:

  • Chwaraeon Cymru
  • Chwaraeon Anabledd Cymru
  • Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol
  • Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
  • Yr Heddlu
  • GIG
  • Datblygu Busnes Cymru

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Rwydwaith diogel Torfaen
  • Dyfeisiau llechen diogel Torfaen

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am dair blynedd ar y mwyaf.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Stuart Lawrence, Datblygu Chwaraeon Torfaen: 01633 628965; sportsdevelopment@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2023 Nôl i’r Brig