PN080 - Hysbysiad Preifatrwydd Gwybodaeth Ychwanegol Pontydd i Waith a Sgiliau Gwaith i Oedolion

Mae geiriad y ddogfen hon yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) sydd mewn grym o 25ain Mai 2018.

Maes Gwasanaeth CBST: NSPPP
Maes gwaith: Sgiliau a Chyflogadwyedd
Manylion Cyswllt: Angela Price
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Pontydd i Waith; Meithrin, Darparu, Ffynnu; a Sgiliau Gwaith i Oedolion – hysbysiad gwybodaeth ychwanegol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r hysbysiad hwn wedi ei fwriadu ar gyfer cyfranogwyr y ddau brosiect Pontydd i Waith a Sgiliau Gwaith i Oedolion.

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Ydym, rydym yn cael y data a ystyrir dan yr hysbysiad hwn yn uniongyrchol oddi wrthych chi o’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol rydych yn ei chwblhau fel rhan o’r broses gofrestru

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Eitemau adnabod personol megis Enw, Dyddiad Geni, rhif Yswiriant Gwladol, cyfenw blaenorol (os oedd un), Rhif Dysgwr Unigryw a rhif adnabod wedi ei roddi gan ACL.
  • Eich manylion cyswllt a manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Collfarnau heb eu disbyddu

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd

Cesglir eich data gan ein staff trwy gyfrwng ffurflenni cais a gwaith papur arall rydych yn ei gwblhau.

Byddwn yn storio eich data:

Rydym yn cadw copïau papur gwreiddiol y data mewn mannau ffeilio gyda mynediad cyfyngedig ac ar ffurf electronig mewn data-bas diogel y gall ond nifer fechan o staff ag awdurdod gael mynediad iddynt.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Mae angen i ni brosesu’r data personol hwn er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd (darparu gwasanaethau cyflogadwyedd) yn ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus.

Byddwn yn defnyddio’r data hwn ar gyfer unrhyw rai neu’r cyfan o’r dibenion canlynol:

  • Medru cysylltu â rhywun ar eich rhan os oes argyfwng neu sefyllfa feddygol lle na fedrwch chi wneud hynny;
  • Medru eich amddiffyn chi, ein cyfranogwyr a’n dysgwyr eraill, ein staff a chwsmeriaid cyrff eraill y byddwch yn cael eich lleoli gyda nhw fel rhan o weithgaredd y prosiect.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu peth data am gollfarnau heb eu disbyddu er mwyn darparu’r cymorth mwyaf priodol ac effeithiol sy’n addas i’ch anghenion a’ch amgylchiadau ac i’ch cynorthwyo chi i beidio â thorri telerau unrhyw gyfyngiadau sydd arnoch.

Pan fyddwch yn cael cynnig ac yn derbyn gwasanaethau cwnsela efallai bydd data ychwanegol yn ymwneud â’ch lles yn cael ei gasglu. Cyfyngir y wybodaeth yma i lai fyth o bobl, gyda dim ond angen argymhellion eich cynghorydd er mwyn teilwra cefnogaeth at eich anghenion yn cael eu trosglwyddo at weithwyr prosiect; bydd manylion eich sesiynau yn parhau’n gyfrinachol. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â chyfrinachedd yn y cytundeb cleientiaid a gawsoch chi cyn dechrau unrhyw gwnsela

Gallwn brosesu’r categori data yma oherwydd:

Rydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda thrydydd partïon ac eithrio lle mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Na

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn unol â pholisi categori arbennig y prosiect sy’n golygu cadw’r data am oes y prosiect – disgwylir ar hyn o bryd iddo ddod i ben ym mis Rhagfyr 2022.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • canlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Angela Price - angela.price@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig