PN078 - Hysbysiadau Preifatrwydd Trwyddedu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
Maes Gwaith: Trwyddedu
Manylion Cyswllt: Claire Howells
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Trwyddedu

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae data'n cael ei gasglu a'i brosesu gan y gwasanaeth Trwyddedu i'n galluogi ni i weinyddu trwyddedau a gorfodi rheolau a rheoliadau perthnasol i ddiogelu'r cyhoedd.

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych i'n galluogi i brosesu trwyddedau neu ganiatáu ceisiadau.

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan asiantaethau partner, trydydd partïon fel cwmnïau yswiriant a ffynonellau cyhoeddus i'n cynorthwyo i sicrhau bod rheoliadau trwyddedu'n cael eu gweithredu a'u gorfodi.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth yma?:

  • Ffurflenni cais electronig a phapur a dogfennau cefnogol.
  • Cyswllt uniongyrchol fel galwadau ffôn ac e-byst
  • Hysbysiadau gan asiantaethau partner

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Gall y gwasanaeth Trwyddedu gasglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhifau ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Dyddiad geni
  • Statws Priodasol
  • Cefndir troseddol
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Gwybodaeth Pasbort
  • Cefndir meddygol
  • Gwybodaeth deuluol
  • Ethnigrwydd
  • Statws Cenedligrwydd a Mewnfudo
  • Ffotograffau
  • Hanes trwydded gyrru
  • Statws treth

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau arbennig o ddata personol:

Efallai byddwn yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data'n ymwneud â bywyd rhywiol person
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff hwn ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sy'n cael gweld eich data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gan ddibynnu ar y math o drwydded y mae ei hangen, gall enw a chyfeiriad deiliaid trwydded, neu ymgeiswyr, gael eu datgelu i drydydd partïon ar gais. Mae gwybodaeth bellach ar y cais am drwydded benodol.

Gall eich data gael ei rannu hefyd yn allanol gyda sefydliadau er mwyn atal neu ddatgelu trosedd, er mwyn diogelu pobl sy'n agored i niwed, neu i gynorthwyo archwiliadau neu ymchwiliadau swyddogol. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu;
  • CThEM:
  • Fisâu a Mewnfudo'r DU

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i drydydd partïon oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Nac Ydy

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data'n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir mynediad at y data yma yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac mewn cydymffurfiad â RhDDC y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Cyfleusterau storio electronig diogel
  • Systemau meddalwedd diogel
  • Cyfleusterau storio papur cyfrinachol

Am ba mor hir ydy’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data

Nac Ydym

Eich Hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau yma, cysylltwch â Claire Howells, Rheolwr Tîm Trwyddedu a Safonau Masnach, licensing@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig