PN076 - Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd y Cyhoedd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi ac Amgylchedd
Maes gwaith: Iechyd y Cyhoedd
Manylion Cyswllt: John Clements
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Iechyd y Cyhoedd

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata y mae gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yn ei gasglu a'i brosesu amdanoch chi, a'r rhesymau dros hyn.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi'n gofyn am wasanaeth neu'n rhoi gwybod am broblem.

A

Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan asiantaethau sy'n bartneriaid, fel Cymdeithasau Tai, yr Heddlu a chyrff y Llywodraeth.

A

Gallwn ddal lluniau fideo ohonoch chi ar offer teledu cylch cyfyng a ddefnyddir i atal troseddu neu i ddiogelu'r cyhoedd

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Cwynion gan gwsmeriaid neu geisiadau am wasanaeth
  • Darperir gan asiantaethau sy'n bartneriaid
  • Gan swyddogion sy'n defnyddio ffotograffiaeth a/neu offer fideo sy'n cael ei wisgo ar y corff
  • Gan swyddogion sy'n defnyddio offer recordio sain/offer monitro
  • Gan gwsmeriaid sy'n defnyddio "ap" i recordio sain
  • Trwy ddefnyddio offer Teledu Cylch Cyfun (TCC) mewn meysydd sy'n achosi pryder

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yn casglu;

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhifau Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost:
  • Dyddiad Geni
  • Recordiadau sain (cwynion am sŵn)
  • Darn o fideo o Gamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff neu'r Camerâu TCC a ddefnyddir

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Gall darn o ffil,/fideo gasglu'r data categori arbennig canlynol:

  • data mewn perthynas ag iechyd
  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data mewn perthynas â thueddiad rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff hwn ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gellir hefyd rhannu eich data yn allanol gyda sefydliadau, i'n cynorthwyo i ganfod partïon sydd yn rhan o anghydfod, i atal a chanfod trosedd ac i helpu i ddiogelu pobl fregus. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Adrannau neu Dimau eraill fel Treth y Cyngor, Iechyd yr Amgylchedd, Trwyddedu, Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaethau eraill y Llywodraeth
  • Llywodraeth Cymru
  • Archwilwyr Mewnol
  • Rheolyddion Allanol

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar:

  • Systemau recordio electronig, diogel
  • Systemau ffeilio papur, diogel

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae darnau o ffilm o gamerâu sy'n cael eu gwisgo ar y corff yn cael eu dinistrio pan fydd Hysbysiad Cosb benodedig yn cael ei dalu (lle bo hynny'n berthnasol), ar gwblhau unrhyw drafodion llys neu weithgarwch gorfodi arall
  • Cedwir unrhyw ffilm TCC os cofnodir trosedd a hynny'n unig, ac os felly cânt eu cadw trwy gydol unrhyw gamau dilynol, ac am 7 mlynedd ychwanegol. Caiff unrhyw ffilm ei dileu pan bernir nad yw'n dangos unrhyw dystiolaeth.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Rheolwr y Tîm - Diogelu'r Amgylchedd ar public.health@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2024 Nôl i’r Brig