PN073 - Hysbysiad Preifatrwydd Economi a Menter Ddigidol

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Maes gwaith: Economi a Menter Ddigidol
Manylion Cyswllt: Gaynor Wakeling
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Tenantiaid a chyn denantiaid yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Ydym

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw Cyfeiriad
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif Ffôn
  • Gwybodaeth Ariannol (Cwmni)

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Ffurflenni Cais
  • Cynllun Busnes

Byddwn yn storio eich data:

  • Mewn systemau ffeilio papur diogel
  • Ffeiliau Electronig

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Caniatâd

Mae hyn yn berthnasol pan fyddwch wedi gofyn i gael eich rhoi ar restr bostio neu aros ar gyfer eiddo sydd ar gael neu wedi gwneud ymholiad ynglŷn â thir neu adeiladau’r Cyngor.

I gwrdd â rhwymedigaethau cytundebol y mae’r sawl sy’n destun y data wedi cytuno iddyn nhw

Mae hyn yn berthnasol pan fyddwn wedi mynd i gytundeb cyfreithiol mewn perthynas â gwerthiant tir neu adeiladau, a phrydles neu drwydded ar gyfer meddiannu tir neu adeiladau.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Na

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Gall eich gwybodaeth gael ei rhannu’n fewnol gyda:

  • Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau CBST - at ddibenion biliau a/neu ddatgelu trosedd
  • Adran Gyfreithiol CBST os oes cyfarwyddiadau i weithredu ar ran y Cyngor mewn gweithrediad yn ymwneud ag eiddo
  • Archwiliad Mewnol CBST – datgelu trosedd
  • Gwasanaethau Eiddo CBST – enw a manylion cyswllt i drefnu atgyweiriadau

Mae’r Cyngor yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oherwydd:

  • Cyfreithwyr allanol os cyfarwyddir nhw i weithredu ar ran y cyngor mewn gweithrediad yn ymwneud ag eiddo;
  • Datgelu trosedd

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Nac Ydy

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyson ag amserlenni cadw Awdurdod Lleol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • canlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â gaynor.wakeling@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig