PN071 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyn-cofrestru

Mae geiriad y ddogfen hon yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) sydd mewn grym o 25ain Mai 2018.

Maes Gwasanaeth CBST: GCCDC
Maes gwaith: Sgiliau a Chyflogadwyedd
Manylion Cyswllt: Angela Price
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Hysbysiad llawn cyn cofrestru Pontydd i Waith; Meithrin, Darparu, Ffynnu; a Sgiliau Gwaith i Oedolion (ar y cyd).

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Bwriedir yr hysbysiad hwn ar gyfer pobl sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag un o’r dri gynllun Pontydd i Waith 2, Meithrin Darparu Ffynnu a Sgiliau Gwaith i Oedolion 2.

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Mae’r holl ddata sy’n cael ei gynnwys gan yr hysbysiad preifatrwydd yma’n cael ei gasglu’n uniongyrchol oddi wrthych chi.

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dynodwyr Personol: fel Enw a Dyddiad Geni
  • Eich manylion cyswllt
  • Manylion ynglŷn â’ch cymhwyster ar gyfer y prosiect yma fel eich statws cyflogaeth a’ch cymwysterau. Efallai byddwch yn rhoi peth gwybodaeth i ni ynglŷn â pham eich bod eisiau ein cefnogaeth a beth yr ydych am gael allan ohoni.

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd

Mae eich data’n cael ei gasglu trwy eich sgyrsiau gyda’n staff ac o ffurflenni “diddordeb” yr ydych yn eu cwblhau mewn digwyddiadau.

Byddwn yn storio eich data:

Rydym yn cadw copïau papur gwreiddiol y data mewn mannau ffeilio diogel â mynediad cyfyngedig. Gall y data hefyd gael ei drefnu mewn taenlenni ar gyfer eu dosrannu at weithwyr achos.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Mae angen i ni brosesu’r data personol er mwyn cwblhau tasg er budd cyhoeddus (darparu gwasanaethau cyflogadwyedd i oedolion) fel rhan o’n swyddogaeth fel corff cyhoeddus. Rydym yn gofyn am ac yn derbyn eich caniatâd i gadw’r data yma cyn ein bod yn ei brosesu.

Byddwn yn defnyddio’r data yma i:

  • Gwblhau asesiad byr o’ch cymhwyster a’ch addasrwydd ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y prosiect ac i roi gweithiwr achos i chi.
  • Cysylltu â chi ynglŷn â’r gefnogaeth yr ydym yn gallu cynnig ac, os ydych chi eisiau, eich cofrestru gyda’r prosiect.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Nid ydym yn prosesu unrhyw gategori arbennig o ddata.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Nid yw’r data yma’n cael ei rannu fel arfer gydag unrhyw sefydliad arall. Mewn rhai achosion, ble rydych yn cytuno y byddai atgyfeiriad at ddarparwr arall o fudd i chi, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i roi eich manylion i ddarparwr arall. Bydd y caniatâd hwn yn cael ei gasglu ar adeg yr atgyfeiriad a bydd ond yn cael ei ddefnyddio i rannu manylion cyswllt gyda’r darparwr a enwir ar y ffurflen ganiatâd.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Nac Ydy

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Bydd y data yma’n cael ei gadw dim ond cyhyd ag sydd angen. Bydd yn cael ei ddinistrio naill ai pan fyddwch yn ymuno’n llawn â’r prosiect (byddwch wedyn yn derbyn hysbysiad preifatrwydd gwahanol) neu 3 mis ar ôl casglu’r data, pa un bynnag sydd gynharaf.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • cael gwybod am ganlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • cael gwybod am fodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, Angela Price - angela.price@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig