PN068 - Hysbysiad Preifatrwydd Marchnata

Mae geiriad y ddogfen hon yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) sydd mewn grym o 25ain Mai 2018.

Maes Gwasanaeth CBST: GCCDC
Maes gwaith: Sgiliau a Chyflogadwyedd
Manylion Cyswllt: Angela Price
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Marchnata Dysgu Oedolion a Chymunedol

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Bwriedir yr hysbysiad hwn ar gyfer dysgwyr Dysgu Oedolion a Chymunedol sy’n rhoi eu caniatâd i’w data gael ei ddefnyddio fel y gallwn gysylltu â nhw ynglŷn â chyfleoedd eraill i ddysgu.

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Ydym

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn mae’r data sy’n cael ei brosesu’n cynnwys

  • Dynodwyr Personol: fel Enw, Rhif Dysgwr Unigol a rhif adnabod gan Ddysgu Cymunedol i Oedolion;
  • Eich manylion cyswllt
  • Data’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn ymgymryd â nhw gyda’r gwasanaeth dysgu fel manylion cwrs, dyddiadau, presenoldeb a chymwysterau a geisioch chi ac a gawsoch chi.

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd

Cafodd eich data ei gasglu oddi wrthych chi gan ein staff trwy’r ffurflenni cais a’r gwaith papur arall i chi’n ei gwblhau. Efallai bydd data ynglŷn â’r cymwysterau y byddwch chi’n eu hennill yn cael ei gasglu oddi wrth gyrff dyrannu’r cymwysterau hynny.

Byddwn yn storio eich data:

Rydym yn cadw copïau papur gwreiddiol y data mewn system ffeilio ddiogel a hefyd cofnod electronig mewn cronfa ddata fewnol ddiogel y mae modd i nifer fach o staff awdurdodedig yn unig fynd ato.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Mae angen i ni brosesu’r data personol yma er mwyn cynnig cyfleoedd addas a pherthnasol ychwanegol i chi i ddysgu gyda ni. Rydych wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni ddefnyddio’r data yma at y diben hwn.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn prosesu unrhyw ddata categori arbennig mewn perthynas â’n marchnata

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Ni fyddwn yn rhannu’r data yr ydym yn ei gadw o dan yr hysbysiad yma gydag unrhyw drydydd parti.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Nac Ydy

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyson ag amserlenni cadw Awdurdod Lleol. Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion yn gweithredu polisi cadw am 3 blynedd ar gyfer data dysgwyr.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • cael gwybod am ganlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • cael gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, Angela Price - angela.price@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig