PN067 - Hysbysiad Preifatrwydd Economi a'r Amgylchedd

Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Maes gwaith: Economi a’r Amgylchedd
Manylion Cyswllt: Geraint John
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Economi a’r Amgylchedd

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?

Gall data personol gael ei roi i ni ar ffurf ffurflenni cais neu gais am wasanaeth, gan yr unigolyn neu gan drydydd parti ar eu rhan

Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Enwau
  • cyfeiriadau
  • rhifau ffôn
  • cyfeiriad e-bost
  • manylion teulu agosaf
  • gwybodaeth fusnes
  • gwybodaeth ariannol
  • cymwysterau ac
  • mewn rhai achosion
  • hanes troseddol

Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd:

Ffurflenni cais, ffurflenni cais am wasanaeth, Adrannau eraill yn y Cyngor, sefydliadau partner, ymholiadau ar y ffôn

Byddwn yn storio eich data:

  • Mewn systemau ffeilio papur diogel, archifau, cronfeydd data electronig

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

I gwrdd â rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor

Caniatâd:

  • Angenrheidiol i gyflawni tasgau er budd cyhoeddus neu wrth weithredu ar sail awdurdod sydd gan y Cyngor
  • Angenrheidiol i gwrdd â rhwymedigaethau cytundebol y mae’r person/dinesydd wedi cytuno iddyn nhw

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Na

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

  • Adrannau eraill yn yr awdurdod
  • Llywodraeth Cymru
  • Undebau Credyd
  • Partneriaid Ariannu
  • yr Heddlu
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithasau Tai
  • awdurdodau lleol eraill

Mae’r Cyngor yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oherwydd:

  • Cyflawni’n dyletswyddau

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Nac Ydy

Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau Awdurdod Lleol ac unrhyw ofynion cyllidebol neu archifol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac Ydym

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • gweld a chael copi o’ch data ar gais
  • mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
  • yr hawl i hygludedd data
  • yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
  • canlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
  • bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r maes gwasanaeth perthnasol - geraint.john@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023 Nôl i’r Brig