PN060 - Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Cynhwysiant
Manylion Cyswllt: Cheryl Deneen - Cheryl.deneen@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cymorth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Rhoi cyngor a chymorth i deuluoedd plant gyda diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth a staff mewn lleoliadau addysg.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi

A

  • Gallwn hefyd dderbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, gan: Fwrdd Prifysgol Iechyd Aneurin (BIPAB): therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol, paediatregydd, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
  • Awdurdod lleol: gofal cymdeithasol, gwasanaethau addysg

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Adroddiadau
  • Arsylwadau
  • Cyfarfodydd
  • Ebost
  • Ffôn
  • Ffurflen atgyfeirio

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Awtistiaeth yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Rhywedd

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon/seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni/arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Nodwch efallai y byddwn yn gofyn am ganiatâd i gysylltu gyda'r gwasanaeth neu rannu gwybodaeth gyda darparwyr; fodd bynnag, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data sy’n ymwneud ag iechyd h.y. y diagnosis

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau, gan gynnwys:

  • Seicolegwyr Addysg
  • Swyddogion Cyswllt Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gofal Cymdeithasol (os yn berthnasol)
  • Swyddog Lles Addysg
  • Sefydliadau Addysgol

Gyda’ch caniatâd chi, gellir hefyd rannu eich data yn allanol gyda chyrff megis:

  • Meithrinfeydd a chylchoedd chwarae nas cynhelir
  • Y Bwrdd Iechyd

Mae hyn er mwyn darparu cymorth ar ôl diagnosis neu i gynorthwyo disgyblion sy’n pontio.

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar

  • Fformat electronig diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Cheryl Deneen - cheryl.deneen@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig