PN055 - Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Plant a Phobl Ifanc 1-1 - Y Gwasanaeth Chwarae

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Gwasanaeth Chwarae
Manylion Cyswllt: Julian Davenne – 01495 742952
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: 1-1 Cefnogi Plant a Phobl Ifanc – Y Gwasanaeth Chwarae

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Disgrifiad byr o ddiben yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu i ni yn uniongyrchol gennych chi i sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth a'r ddarpariaeth gywir i'ch plentyn. Cesglir gwybodaeth hefyd gan weithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr cymdeithasol, Gweithwyr Teuluoedd yn Gyntaf, Ysgolion lle bo angen.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Ffurflenni cofrestru wedi'u llenwi gan rieni / gofalwr cyn i'r plentyn gael mynediad at ddarpariaeth. Gall hyn fod yn bapur ac yn electronig. Cesglir gwybodaeth hefyd gan weithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr cymdeithasol, Gweithwyr Teuluoedd yn Gyntaf, Ysgolion lle bo angen.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Gwasanaeth Chwarae yn casglu'r wybodaeth ganlynol am eich plentyn trwy'r broses gofrestru.

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Plentyn Sy’n Derbyn Gofal
  • Y Gofrestr Amddiffyn Plant
  • Cyswllt mewn Argyfwng
  • Hawl i Brydau Bwyd Am Ddim yn yr Ysgol
  • Anghenion ymddygiadol
  • Anghenion Cyfathrebu
  • Ysgol
  • Meddygfa

Os codir unrhyw faterion neu bryderon mewn perthynas â diogelu, byddwn yn cadw gwybodaeth am hyn am y cyfnod angenrheidiol yn unol ag arfer proffesiynol.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Mae ei angen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus – darparu darpariaeth chwarae ddiogel

Sylwch y gallwn ofyn am ganiatâd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, fodd bynnag, nid caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu'ch data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu'r data categori arbennig canlynol;

  • Data’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data am droseddau.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Rhennir eich data yn fewnol yn unig gyda'r staff priodol lle mae'n angenrheidiol iddynt gyflawni eu rolau.

Ar wahân i ble y nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod galw arnom i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn;

  • Storfa ddiogel ar gyfer papur a chopïau caled o ffurflenni cofrestru
  • Cronfa ddata electronig ddiogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Tan i’r person rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaeth

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Gwasanaeth Chwarae Torfaen, Hen Lyfrgell Abersychan, Brynteg, Abersychan, Torfaen NP4 7 BG 01495 742951 andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 29/08/2023 Nôl i’r Brig