PN052 - Hysbysiad Preifatrwydd Gwaharddiadau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Cynhwysiant/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Manylion Cyswllt: Donna Lewis
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gwaharddiadau

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'n ddyletswydd ar y Gwasanaeth Addysg i fonitro gwaharddiadau disgyblion sy'n derbyn eu haddysg mewn ysgolion yn Nhorfaen, a chasglu data dienw ar waharddiadau fel y gorchmynnwyd gan ofynion statudol Llywodraeth Cymru.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan waharddiadau disgyblion a ddarperir gan ysgol y disgybl dan sylw.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Ffurflen hysbysu ynghylch gwaharddiad (copi caled ac electronig)
  • Data a ychwanegwyd ar system Capita ONE

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol
  • Rheswm dros wahardd
  • Statws Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Rhywedd
  • Rheswm dros wahardd
  • Math o waharddiad
  • Nifer diwrnodau'r gwaharddiad
  • Nifer yr achosion o wahardd
  • Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaharddiad

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon/seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni/arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Mae'n ddyletswydd ar y Gwasanaeth Addysg i fonitro gwaharddiadau disgyblion sy'n derbyn eu haddysg mewn ysgolion yn Nhorfaen, a chasglu data dienw ar waharddiadau fel y gorchmynnwyd gan ofynion statudol Llywodraeth Cymru.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu unrhyw gategori arbennig na data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Ni rennir unrhyw ddata ar lefel disgyblion gydag asiantaethau allanol.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar:

  • Capita ONE
  • Gyriant diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae'r Gwasanaeth ADY yn cadw cofnodion ar gyfer Disgyblion sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yn unol â pholisi'r Cyngor, sef dyddiad geni'r plentyn a phum mlynedd ar hugain.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Donna Lewis, Uwchreolwr ADY, donna.lewis@torfaen.gov.uk 01495 766974

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2023 Nôl i’r Brig