PN051 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyfarwyddyd Rhyngweithio Fideo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Manylion Cyswllt Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cyfarwyddyd Rhyngweithio Fideo (VIG)

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Dull seicolegol yw VIG , sy’n golygu ffilmio rhyngweithio rhwng aelodau teuluoedd er mwyn hwyluso perthnasau a deinameg teuluol.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Ffurflen ganiatâd
  • Recordiad fideo o ryngweithio

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys.

  • Enw
  • Recordiad o ryngweithio rhwng aelodau teuluoedd (fel arfer rhieni a phlentyn)

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Ceir caniatâd oddi wrth y rhiant/gofalwr i ymgysylltu gyda’r gwasanaeth, serch hynny, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu data categori arbennig yn fwriadol, serch hynny gall lluniau fideo casglu’r canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn datgelu barn wleidyddol
  • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data sy’n ymwneud ag iechyd
  • data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata troseddol yn uniongyrchol ond efallai bydd yn cael ei ddal mewn lluniau fideo. Rydym yn prosesu hyn o dan Erthygl 10 GDPR y DU

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau. Efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â:

  • Aelodau’r tîm Seicoleg Addysg

Mae’r Cyngor yn rhannu’ch data’n allanol gyda:

  • Rhiant/Gofalwr
  • Goruchwyliwr VIG - mae’r rhiant/gofalwr yn rhoi caniatâd i rannu hyn

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel;

  • Ar ffurf electronig ar yriant diogel ar y rhwydwaith.

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn.

  • Mae’r fideo’n cael ei storio am flwyddyn ar ôl recordio a bydd wedyn yn cael ei ddileu.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Nac ydyn

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Alyson Costa, Seicolegydd Addysg Arweiniol, CBST, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig