PN048 - Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Gwrth-fwlio Torfaen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Ysgolion Iach
Manylion Cyswllt Alison Dally - Swyddog Ysgolion Iach ac ABCh
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Arolwg Gwrth-fwlio Torfaen

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Er mwyn bwydo gwybodaeth i waith gwrth-fwlio yn y dyfodol ar lefel ysgolion ac awdurdod lleol, cesglir gwybodaeth drwy gyfrwng dau holiadur electronig, yn yr ysgolion, yn cynnwys disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnodau Allweddol 3, 4 a 5.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae’r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu i ni yn uniongyrchol ar sail wirfoddol.

Mae gan ddisgyblion yr hawl i beidio â chymryd rhan yn yr holiadur ar unrhyw adeg.

I gael darlun cywir o ymddygiad bwlio, mae’n bwysig bod holl ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a 5 yn cael eu hannog gan staff yr ysgol i gymryd rhan yn yr arolwg.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

Caiff atebion i’r holiaduron byr eu casglu ar gyfrifiaduron yr ysgol a’u trosglwyddo yn ddiogel i’r Cyngor a fydd yn dadansoddi’r canlyniadau cyn anfon adroddiad crynhoi byr yn ôl i’r ysgolion.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r holiadur yn casglu:

  • Enw (opsiynol)
  • Rhywedd
  • Grŵp blwyddyn ysgol
  • Profiadau o fwlio yn yr ysgol

Mae opsiwn i ddisgyblion unigol sy'n adrodd ymddygiad bwlio gynnwys eu henw. Ni fydd yr ymatebwyr yn cael eu hadnabod fel mater o drefn i’r disgyblion hynny nad ydynt am gynnwys eu henw. Serch hynny, ni ellir sicrhau anhysbysrwydd am fod yr holiadur yn casglu data personol a sensitif a gallai hynny arwain at adnabod disgyblion unigol (ee rhyw, grŵp blwyddyn ysgol, profiadau o fwlio yn yr ysgol ac ati). Lle mae pryder ynglŷn a diogelu, bydd y Pennaeth/Person Diogelu Dynodedig yn cael ei hysbysu gan y Cyngor a rhaid iddo ddilyn y gweithdrefnau diogelu priodol.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Caiff data ei ddadansoddi gan yr ysgol a’r awdurdod lleol i fonitro amlder a’r cymhelliant y tu ôl i ymddygiad bwlio. Bydd ysgolion yn defnyddio’r wybodaeth i adnabod patrymau neu dueddiadau mewn ymddygiad bwlio ac yn hysbysu gwaith gwrth-fwlio yn y dyfodol.

Bydd y Cyngor yn defnyddio’r wybodaeth i ddarparu hyfforddiant gwrth-fwlio i staff ysgol yn y dyfodol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol yn dangos anabledd
  • data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
  • data yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol person

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol o fewn y Cyngor a chyda staff ysgolion lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.

Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel ar:

  • Yriant rhwydwaith diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda ag: Alison Dally, Swyddog Ysgolion Iach ac ABCh, Alison.Dally@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/08/2023 Nôl i’r Brig