PN046 - Addysg yn y Cartref Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Gwasanaeth Lles Addysg
Manylion Cyswllt: Rachael Williams
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Addysg yn y Cartref

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'n ddyletswydd ar y gwasanaeth Addysg i gasglu gwybodaeth am nifer y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref, sy'n byw yn yr awdurdod y mae rhieni wedi caniatáu i ni wybod a darparu data ar Addysg yn y Cartref fel y gorchmynnwyd gan ofynion statudol Llywodraeth Cymru.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych am eich bod wedi dewis addysgu eich plentyn yn y cartref.

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan ysgol os bu'r plentyn ar gofrestr ysgol ar un adeg

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Gwybodaeth gan rieni a gyflwynir i'r ALl (trwy adroddiadau / galwadau ffôn / e-byst)
  • Cronfeydd data ysgolion e.e. SIMS (lle'r oedd y plentyn ar y gofrestr mewn ysgol yn flaenorol)
  • Ffurflen addysg yn y cartref (electronig drwy e-bost)

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Tîm ADY yn casglu:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfredol
  • Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol; pan ddechreuodd yr addysg yn y cartref
  • Oed
  • Enw'r ysgol/ddarpariaeth addysg ddiwethaf
  • Y dyddiad olaf ar gofrestr ysgol/darpariaeth
  • Dyddiad cychwyn addysg yn y cartref
  • Rheswm dros addysgu yn y cartref (os rhoddwyd)
  • Manylion Cyswllt
  • Statws Anghenion Dysgu Ychwanegol (pan ddechreuodd addysg yn y cartref a nawr - os ydych yn gwybod)
  • Rhywedd
  • Iaith Gyntaf
  • Manylion cyswllt/ymgysylltiad yr Awdurdod Lleol gyda chi
  • Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r achos
  • Unrhyw gyfathrebu gyda'r teulu
  • Dyddiad dychwelyd i'r ysgol (os yw'n berthnasol)

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data mewn perthynas ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Rhennir data dienw â Data Cymru gan ddefnyddio teclyn trosglwyddo diogel. Mae hyn yn galluogi Data Cymru i gynhyrchu ystadegau cyfanredol a fydd yn caniatáu i Gyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol a Swyddogion ADdC arweiniol, CLlLC a Llywodraeth Cymru ddeall y garfan Addysg Ddewisol yn y Cartref yn well, i lywio trafodaeth, a nodi anghenion a materion yn lleol ac ar draws y gymuned ADdC.

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar:

  • Mewn ffeiliau diogel i ddisgyblion yng nghyfeiriadur addysg y Cyngor ar yriant diogel neu mewn cronfa ddata diogel Capita ONE

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae'r Gwasanaeth ADY yn cadw cofnodion ar gyfer Disgyblion sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yn unol â pholisi'r Cyngor, sef dyddiad geni'r plentyn a phum mlynedd ar hugain.

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Rachael Williams, Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref, rachael.williams@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2023 Nôl i’r Brig