PN045 - Hysbysiad Preifatrwydd Grant Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Blynyddoedd Cynnar
Manylion Cyswllt: Hayley Morgan - 07980 732664
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Grant Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar (GDBC)

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn darparu gwybodaeth am ddata, cyllid a gwybodaeth a gasglwyd ac a gedwir gan y Cyngor mewn perthynas â Grant Datblygu Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Darperir y wybodaeth a broseswn yn uniongyrchol i ni gan ddefnyddwyr y gwasanaeth gofal plant. Defnyddir y wybodaeth i drafod a chydlynu'r gwasanaethau mwyaf priodol i gefnogi anghenion addysgol eich plentyn/lleoliad ac i arwain gwario'r grant yn unol â hynny. Rydym yn derbyn gwybodaeth yn anuniongyrchol am y lleoliad, a hynny o gyfarfodydd proffesiynol gyda phartneriaid mewnol ac allanol, er enghraifft, ond nid wedi eu cyfyngu i: Swyddog Blynyddoedd Cynnar, Swyddogion Datblygu Gofal Plant a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon:

  • Cynlluniau cais am grant a ddarperir gan y lleoliad. Trafodaethau drwy ebyst, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Rheolwr Gofal Plant yn casglu;

  • Cynlluniau datblygu a hyfforddi
  • Gosod asesiadau, arsylwadau a monitro
  • Sgoriau a gwelliannau sylfaenol y plant, a hynny'n ddienw
  • Lluniau o'r lleoliadau
  • Enw arweinydd / rheolwr y lleoliad
  • Manylion cyswllt y lleoliad
  • Manylion banc y lleoliad
  • Manylion y gwariant ariannol - derbynebau/anfonebau

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Nid ydym yn casglu unrhyw gategori arbennig na data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu yn fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw ymgymryd â’u rolau.

Gall eich data gael ei rannu'n allanol hefyd gyda sefydliadau at:

  • ddibenion cymeradwyo'r cynlluniau GDBC a GGA

Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
  • Llywodraeth Cymru

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn/ar;

  • gyriant diogel ar rwydwaith CBST
  • Cypyrddau ffeilio dan glo

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a hynny'n unig, a bydd yn dilyn safonau corfforaethol a'r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â Hayley Morgan, Rheolwr Gofal Plant, hayley.morgan@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023 Nôl i’r Brig